Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
22/07/2026
By Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod …
















Posted: 28/01/2016 by Admin
Iechyd Coed
Roedd heddiw’n ddiwrnod diddorol iawn ar y safle wrth i’r coed yn y parc gael eu hasesu am unrhyw broblemau iechyd. Cododd gynifer o ffeithiau diddorol o’r diwrnod – cadwch lygad am gyhoeddiadau yn y dyfodol ar ein coed godidog.
Posted: 26/01/2016 by Admin
Storm Jonas yn Taro
Wrth i storm ddiweddaraf y gaeaf sgubo dros y safle, roedd y Ddôl Fawr o dan ddŵr unwaith eto. Fodd bynnag, roedd y dŵr mor ddwfn y tro hwn fel iddo fynd dros yr ‘ha-ha’ dros nos a gorlifo ar draws rhan o’r tir isaf a’r llwybrau cylchdro. Roedd y dŵr wedi cilio erbyn toriad …
Posted: 22/01/2016 by Admin
Arolwg Ystlumod
Yr wythnos hon, er mwyn dod i adnabod ein safle’n well a gwneud yn siwr bod ein prosiect adfer yn cefnogi bywyd gwyllt yn ogystal â phlanhigion, rydym ni wedi bod yn brysur yn cynnal arolwg ystlumod ar y tir. Aseswyd mannau lle y gallai ystlumod glwydo, boed hynny’n ystafell y boeler yn y tŷ …
Posted: 20/01/2016 by Admin
Bore Rhewllyd
Heddiw, mae’r gaeaf wedi dod â’r rhew caled cyntaf i’r parc, sy’n rhyddhad ar ôl yr holl law. Wrth i’r haul godi a’r awyr droi’n las llachar, roedd y tir yn disgleirio yn yr heulwen gan ddenu llawer o bobl allan, gyda’u camerâu yn barod, i fynd am dro iachusol o amgylch y tir.
Posted: 14/12/2015 by Admin
Grant Ymddiriedolaeth Laspen
Heddiw, mae’n bleser gennym gyhoeddi derbyn grant gan Ymddiriedolaeth Laspen tuag at ddatblygu’n prosiect.
Posted: 01/12/2015 by Admin
Y Ddôl Gorlifdir yn gwireddu ei henw
Ar ôl stormydd anhygoel y diwrnodau diwethaf, bu’n amhosibl gwahaniaethu rhwng y Ddôl Fawr a Phwll yr Esgob. Am oddeutu canol dydd heddiw, wrth i’r afon gyrraedd y llanw uchel, roedd hi’n rhyfeddol gwylio pa mor gyflym llenwodd y dŵr y ddôl gan dynnu sylw at rai o’r hen gyrsiau afon nad oes modd eu …
Posted: 23/11/2015 by Admin
Gwaith Arolwg Topograffig yn cychwyn
Mae’r gwaith mesur ar y safle wedi dechrau. Heddiw, dechreuodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed eu harolwg o dopograffi. Bydd hwn yn mapio amlinellau’r tir; yn ei hanfod ei lympiau a’i dalpiau, er mwyn helpu darganfod oes gweddillion unrhyw strwythurau pwysig yn dal i fodoli islaw’r tir. Mae dechrau’r gwaith mesur wedi cyd-daro â dyfodiad y tywydd …
Posted: 02/10/2015 by Admin
Lliwiau’r Hydref
Mae’n sicr bod naws oer yn yr awyr y peth cyntaf y bore ‘ma ac wrth i’r tymor newid a’r tir ddechrau troi i liwiau’r hydref, mae gwiwerod ym mhobman wrthi’n casglu ac yn cuddio bwyd yn barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Yn ogystal, mae digon o wahanol fathau o ffyngau ar …
Posted: 29/09/2015 by Admin
Penseiri Cadwraeth
Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi penodiad Acanthus Holden fel y Penseiri Cadwraeth ar gyfer y prosiect. Maen nhw’n ymuno â ni ar adeg gyffrous ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar ddod â bywyd nôl i’r parc a’i nodweddion hanesyddol, megis y bwthyn wrth yr ardd â wal o’i chwmpas er …
Posted: 28/09/2015 by Admin
Darganfyddiad Llwybr Coll
Nodwyd heddiw gan ddarganfyddiad bach ond cyffrous iawn. Wedi’i guddio ychydig fodfeddi islaw’r tir, mae adfeilion sylweddol a chyfan un o’r sawl llwybr coll o gwmpas y tir. Credwn fod y llwybr hwn yn sefyll ar linell yr hyn oedd yn rhan o gylch gwreiddiol dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r tir. Disodlodd llwybr cylch …