Straeon Staff – Anne May
20/10/2026
By Anne
Swyddog Ymgysylltu Gyda chefndir yn gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned, mae Anne yn ymwybodol o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymgysylltu mewn gweithgareddau a’r bwysigrwydd o berthyn. Ar ôl gweithio i elusennau sy’n meithrin ac yn gwerthfawrogi gwirfoddoli, mae hi wedi gweld y manteision y gall gwirfoddoli eu cynnig i fywydau’r rhai sy’n …
















Posted: 01/01/2022 by Caroline Welch
Blwyddyn Newydd Dda
Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gefnogwyr! Mae wedi bod yn flwyddyn drawsnewidiol i Barc yr Esgob…. Rydym bellach wedi plannu mwy na 4,000 o flodau, llwyni, coed a bylbiau newydd, wedi gosod 5 mainc bicnic, 20 bocs adar, 10 bocs ystlum ynghyd ac adfer 700 metr o lwybrau hanesyddol y parc a 12 o feinciau …
Posted: 22/12/2021 by Caroline Welch
Gwylio Bywyd Gwyllt: Rhagfyr 2021
Louise, Ffiona a ? ar 20/12/21 Roedd yn ddiwrnod oer, mwll ar ddiwedd Rhagfyr. Sylwom ar fylbiau’n dechrau torri drwy’r pridd yng Ngardd Jenkinson – arwydd da fod y Gwanwyn ar droed. Heddiw roedd rhosyn dringo newydd gael ei blannu yn erbyn y pergola – mae’r gwaith plannu yng Ngardd Jenkinson bron yn gyflawn! Sylwon ni …
Posted: 23/11/2021 by Caroline Welch
Tach 2021: Gwylio Bywyd Gwyllt am y tro cyntaf
Nid oes cynnwys Cymraeg i’r post hwn ar hyn o bryd.
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Y Caffi
Cegin Stacey Mae’r caffi ym Mharc Yr Esgob ar agor 9am-4pm, 7 diwrnod yr wythnos (fel arfer). Wedi’i reoli gan gwmni o Abergwili, mae Cegin Stacey yn darparu ciniawau ysgafn, cacennau, te, coffi ac ati. Maent hefyd yn cynnig Byrddau Pori a The Prynhawn y gellir eu harchebu ymlaen llaw, ynghyd ag arlwyo ar gyfer …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Darganfyddiadau Cyffrous yn y Ardd Furiog!
Rai wythnosau yn ôl, wrth ffensio sylfeini’r hen dai gwydr yn yr ardd furiog, fe ‘gollodd’ ein contractwyr tirwedd bostyn ffens yn y tir o amgylch un o’r tai gwydr. Wrth iddyn nhw ei daro’r postyn i mewn, fe ddiflannodd mewn gwagle oddi tano.
Posted: 17/08/2021 by Caroline Welch
Sioe Parc Yr Esgob
Oes gennych bys per penigamp? Ydych yn medru pobi sbwng syfrdanol? Ydy’ch gwau chi’n odidog? Wel, dewch a nhw i’n Sioe Arddwriaethol ni ar y 4ydd o Fedi 2021 ym Mharc Yr Esgob, Abergwili.
Posted: 29/06/2021 by Caroline Welch
Dathlu treftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob, Abergwili
DATGANIAD I’R WASG 29-06-21 Dathlu treftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob, Abergwili Mae bywyd gwyllt amrywiol a hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin yn cael eu harddangos mewn cyfres o ddigwyddiadau yr haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob yn Abergwili. Trefnir y digwyddiadau gan Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, elusen fechan sy’n …
Posted: 12/06/2021 by Admin
Bywyd Gwyllt
Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!
Posted: 12/06/2021 by Admin
Hanes
Mae Parc a Gerddi’r Esgob yn gyforiog o hanes. O’r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i’r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i’r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob y mae’r Parc yn ei gwmpasu a’r bobl fu’n byw ac yn gweithio yma.
Posted: 11/06/2021 by Caroline Welch
Garddwriaeth
Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o’n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o’r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy’n rhannu’r lle unigryw ac arbennig yma.