
Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Chwefror yn ystod wythnos hanner tymor, ac roedd hi’n braf cael grŵp bach o ferched ifanc i ymuno gyda ni.
Welwyd arwyddion yr o ddyfodiad y gwanwyn wrth gerdded trwy Ardd Jenkinson ar ddechrau ein taith, gyda’r saffrwm a oedd yn picio trwy’r pridd mis diwethaf nawr yn eu blodau.
Roedd rhagor o arwyddion ar y coed gyda chwtau oen bach i weld ym mhobman a blagur ar ran fwyaf o’r coed. Roedd blagur ar yr ysgawen yn dechrau agor. Gwelwyd a chlywyd mwyalchen gwrw yn y llwyni wrth fynedfa llwybr y coedir ac fe welwyd haid o ji-binc yn y coedir, yng nghyd ac ysgythod a bran.
Clywyd titw mawr yn bloeddio yn agos i’r bont a sylwyd ar bâr o gwtieir yn y pisgwydd ar lan yr ynys, yng nghyd a gwiwer lwyd. Gellir gweld helygen deilgron yn ei flodyn ar yr ynys.
Er y llifogydd mis diwethaf, mae’r dŵr yn y pwll wedi cilio dipyn yn barod. Roedd 2 bar o elyrch dof ag un gwrw ar ben isaf y pwll. Gwelwyd nifer o hwyaid gwyllt, gan gynnwys un fenyw i fyny ar frigyn coeden wrth ochr y pwll!
Ar Y Waun Fawr, sylwyd ar ddau robin goch, sawl ysguthan a barcud. Yn y gwter sy’n rhedeg ar draws y cae o’r hen goeden dderw at y clawdd, roedd clwstwr mawr o griff. Sylwyd ar dwll wedi ei balu yn y pridd, ond roeddwn methu ag adnabod beth oedd wedi ei greu, roedd i weld yn rhy ddofn ac ar ongl anghywir i fod wedi ei greu gan gi. Ar hen goeden dderw, sydd â hollt mawr ynddo, welwyd beth yr ydym yn tybio yw wystrys y coed yn tyfu arno. Roedd blagur castanwydden y meirch yn fawr ac yn ludiog.
Yn y glaswellt sylwyd ar y dail tafol yn tyfu, ysgall yn dechrau gyrru, llaethlys, dinant, berw chwerw a rhwyddlwyn.
Ar y lawnt, roedd nifer o flodau llygaid yr haul ac ambell i flodyn Ebrill yn dod trwyddo, yng nghyd a charped o eirlys wrth ochr yr Ha-ha a’r llwybr.

Posted: 07/03/2023 by Ffiona Jones
Ffair Blanhigion Y Gwanwyn
Bydd ein hail Ffair Blanhigion Y Gwanwyn yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 29ain o Ebrill 2023, i agor am 11yb.
Bydd ystod o stondinau gan dyfwyr lleol, yng nghyd a busnesau lleol eraill. Byddwn yn cynnal teithiau tywys o amgylch y parc a’r gerddi, yng nghyd a sgyrsiau ac arddangosiadau yn ystod y dydd.
Os hoffech archebu lle ar gyfer stondin, llenwch y ffurflen isod a dychwelwch at FfionaJones@tywigateway.org.uk neu ar gyfer ymholiadau pellach, cysylltwch â’n Prif Arddwr, Piers Lunt ar 07444438168 neu Ffiona ar 07395082719
file:///C:/Users/FfionaJones/Documents/Stall%20Booking%20Plant%20Fair.pdf
Posted: 28/02/2023 by Ffiona Jones
Taith Nodi Bywyd Gwyllt Chwefror 2023
Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Chwefror yn ystod wythnos hanner tymor, ac roedd hi’n braf cael grŵp bach o ferched ifanc i ymuno gyda ni.
Welwyd arwyddion yr o ddyfodiad y gwanwyn wrth gerdded trwy Ardd Jenkinson ar ddechrau ein taith, gyda’r saffrwm a oedd yn picio trwy’r pridd mis diwethaf nawr yn eu blodau.
Roedd rhagor o arwyddion ar y coed gyda chwtau oen bach i weld ym mhobman a blagur ar ran fwyaf o’r coed. Roedd blagur ar yr ysgawen yn dechrau agor. Gwelwyd a chlywyd mwyalchen gwrw yn y llwyni wrth fynedfa llwybr y coedir ac fe welwyd haid o ji-binc yn y coedir, yng nghyd ac ysgythod a bran.
Clywyd titw mawr yn bloeddio yn agos i’r bont a sylwyd ar bâr o gwtieir yn y pisgwydd ar lan yr ynys, yng nghyd a gwiwer lwyd. Gellir gweld helygen deilgron yn ei flodyn ar yr ynys.
Er y llifogydd mis diwethaf, mae’r dŵr yn y pwll wedi cilio dipyn yn barod. Roedd 2 bar o elyrch dof ag un gwrw ar ben isaf y pwll. Gwelwyd nifer o hwyaid gwyllt, gan gynnwys un fenyw i fyny ar frigyn coeden wrth ochr y pwll!
Ar Y Waun Fawr, sylwyd ar ddau robin goch, sawl ysguthan a barcud. Yn y gwter sy’n rhedeg ar draws y cae o’r hen goeden dderw at y clawdd, roedd clwstwr mawr o griff. Sylwyd ar dwll wedi ei balu yn y pridd, ond roeddwn methu ag adnabod beth oedd wedi ei greu, roedd i weld yn rhy ddofn ac ar ongl anghywir i fod wedi ei greu gan gi. Ar hen goeden dderw, sydd â hollt mawr ynddo, welwyd beth yr ydym yn tybio yw wystrys y coed yn tyfu arno. Roedd blagur castanwydden y meirch yn fawr ac yn ludiog.
Yn y glaswellt sylwyd ar y dail tafol yn tyfu, ysgall yn dechrau gyrru, llaethlys, dinant, berw chwerw a rhwyddlwyn.
Ar y lawnt, roedd nifer o flodau llygaid yr haul ac ambell i flodyn Ebrill yn dod trwyddo, yng nghyd a charped o eirlys wrth ochr yr Ha-ha a’r llwybr.
Posted: 21/12/2022 by Ffiona Jones
Oriau Agor y Ganolfan Ymwelwyr dros Y Nadolig
Posted: 11/10/2022 by Ffiona Jones
Teithiau Nodi Bywyd Gwyllt yn Dychwelid
Rydym yn ail-ddechrau ein teithiau misol i nodi bywyd gwyllt Parc Yr Esgob ar ôl seibiant dros yr haf. Mae arsylwi a nodi’r bywyd gwyllt ar draws y safle yn rhan bwysig o’r gwaith ecolegol yr ydym yn ei wneud yma ym Mharc Yr Esgob. Mae’n galluogi ni i weld os yw’r gwaith yr ydym wedi ei gyflawni yn barod yn gweithio i ehangu bioamrywiaeth y safle.
Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni, gan gynnwys naturiaethwyr profiadol, neu aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am yr amgylchedd naturiol.
Byddwn yn cwrdd wrth y dderbynfa am 2 o’r gloch y prynhawn ar y 3ydd dydd Mawrth o’r mis. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau cadarn neu wellingtons.
Posted: 14/09/2022 by Ffiona Jones
Angladd Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II
Insights
Last 28 days: 17 Aug – 13 Sep
Set your Page up for success
Establish your Page’s identity
Provide info and preferences
Introduce your Page
About
Promote your business locally to lead people directly to High Street SA31 2JG Carmarthen.
Tywi Gateway Trust is working to restore the grounds of t…
Ar un adeg, roedd Parc yr Esgob wedi’i leoli ar lannau Afon Tywi, yn Nyffryn Tywi hardd, a bu’n ardd breifat Esgob Tyddewi ers bron 500 mlynedd. Heddi…
Photos
Videos
1.3K views · 3 years ago
Page transparency
Live
Event
Offer
Ad
Parc Yr Esgob Abergwili The Bishop’s Park
Posted: 10/08/2022 by Ffiona Jones
Cyfleodd Dysgu Sgiliau i Fobl Ifanc
14-25 mlwydd oed? Cyfle i ddysgu sgiliau newydd am ddim!
Gweithdai sgriptio a chreu ffilmiau ym Mharc Yr Esgob mis yma, fel rhan o’n prosiect Treftadaeth 15 Munud Digidol.
Gweithdai sgriptio – Dydd Iau 25ain a dydd Gwener 26ain Awst 10.30yb
Gweithdai ffilm – Dydd Mawrth 30ain Awst tan ddydd Gwener 2il o Fedi 10yb-4yp
Cysylltwch â Ffiona am fwy o wybodaeth neu i archebu’ch lle: 07395082719 FfionaJones@tywigateway.org.uk
Posted: 04/08/2022 by Ffiona Jones
Caffi ar Agor!
Pleser mawr yw cyhoeddi bod y caffi hir-ddisgwyledig wedi agor! Rydym yn croesawu Stacey a Lisa, dwy fenyw busnes lleol o Abergwili, sy’n rhedeg ‘Stacey’s Kitchen’, yng nghyd a’u tîm.
Mae bwrlwm mawr wedi bod yma ers iddynt agor a gobeithio bydd hyn yn parhau!
Oriau Agor Stacey’s Kitchen ym Mharc Yr Esgob yw 9.00yb tan 5.00yp Llun-Sul
Mae croeso i gŵn, yn ogystal â’u perchnogion ac y mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.
Posted: 26/07/2022 by Ffiona Jones
Atgofion Parc Yr Esgob
Hoffwn gwhahodd unrhyw un sydd ag unrhyw gysylltiad i’r safle i ddod i gael disied a chacen gyda ni yn ein hardal caffi newydd sbon a rhannu eu hatgofion. Bydd ein gwirfoddolwyr a staff ar gael er mwyn recordio’r hanesion.
Dyddiadau ac amseroedd y sesiynau:
02/08/22 (dydd Mercher) 2yp – 4yp
03/08/22 (dydd Iau) 10yb -12yp ac am 4.30yp-6.30yh
09/08/22 (dydd Mawrth) 11yb – 4yp
Am wybodaeth pellach, cysylltwch a Ffiona ar 07395082719 ebost: FfionaJones@tywigateway.org.uk
Posted: 07/07/2022 by Ffiona Jones
Max Pulford
Gyda thristwch mawr y mae’n rhaid inni roi gwybod i bawb fod ein Rheolwr Masnachol, Max Pulford, a oedd newydd ei benodi, wedi marw’n sydyn yr wythnos ddiwethaf. Er ei fod ond ychydig wythnosau i mewn i’r swydd roedd Max eisoes wedi dechrau cael effaith, ac roedd pob un ohonom yn elwa ar ei frwdfrydedd heintus, ei egni a’i allu i gysylltu â phawb y cyfarfu â nhw. Dywedodd ei wraig Penny fod Max wrth ei fodd o fod wedi ymuno â’n tîm yn y parc, a’i fod wedi dod adref o’i ddiwrnod olaf yn y gwaith yn teimlo ei fod wedi cael diwrnod arbennig o dda. Mae’n amlwg bod Max wedi mwynhau ei rôl newydd yn meithrin perthnasoedd ymarferol â busnesau a sefydliadau lleol, a’u hannog i weld y parc fel ased gwerthfawr a allai gyfoethogi eu gwaith. Roedd Max yn amlwg yn ymroddedig i ethos yr Ymddiriedolaeth, ac i wneud Parc yr Esgob yn lle gwell i bawb. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn mynd at ei deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.
Posted: 24/06/2022 by Ffiona Jones
Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022
Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022, 2.00yp
Arweiniwyd yr 8 person a ddaeth i’r daith gan Max Pulford. Roedd hi’n ddiwrnod crasboeth, hirddydd haf, gyda thymheredd o 27⁰C gyda gwyntoedd ysgafn, a ddaeth a’r nifer mwyaf allan ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Wrth i ni gerdded trwy Ardd Jenkinson, roedd nifer fawr o wenyn (mêl, hofran, cachgi bŵm a chardwenyn) a chlêr hofran yn casglu paill. Roedd y Blanwydden Llundain hynafol yn cael cwymp dail mis Mehefin – dydyn ddim yn siŵr os mae hyn oherwydd y tywydd twyn, diffyg glaw yn ddiweddar neu os yw’n rhywbeth sy’n digwydd, ond roedd y nyth gwenyn gwyllt yn weithgar iawn o fewn gau yn y boncyff chwith. Clywyd bronfraith yn canu ac yna glywyd cân telor penddu gwrw gan y grŵp tra oeddent yn edrych ar hesgen bendrwm wrth ochr coedir llaith. Mae hesg yn rhwydd adnabod gan fod ymyl i’w coesau. Roedd rhosyn gwyllt yn ei flodyn, a blodau neidr yn gyfagos, yn ogystal â’r planhigion coedir arferol, gan gynnwys eurinllys trydwll, hocys a briwlys y gwrych. Roedd u’n o’r grŵp yn gyn-feddyg coed, ac fe wnaeth ein difyrru gyda ffeithiau diddorol am y coed.
Wrth Bwll Yr Esgob (sy’n isel iawn ar hyn o bryd), fe welwyd dwy hwyaden wyllt a chrëyr glas rhwng y mat lili’r dŵr melyn, sy’n dechrau blodeuo. Gwelwyd pryfed mursen glas yn gwibio ar draws y dŵr. Clywyd dryw a ji-binc ac fe welwyd jac-y-do, ond yr uchafbwynt oedd gweld pâr o wybed gyda bwyd yn eu pigau a oedd yn awgrymu fod nyth a chywion ganddynt yn agos. Gobeithiwyd gweld neidr defaid yn yr ardd furiog, ond roedd hi hyd yn oed rhy boeth i hwythau. Mwynhawyd hufen iâ ar ddiwedd y dydd ac, er ni welwyd nifer mawr o adar, cafwyd dro diddorol a hyfryd gan bawb. Bydd y daith nesaf ar ddydd Mawrth 19eg o Orffennaf.