enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Yr ymddiriedolaeth a elwid gynt yn….

Bydd ymddiriedolwyr a staff Parc yr Esgob yn defnyddio’r enw “Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob” o fis Ebrill 2026 ymlaen fel enw gweithredol cyhoeddus yr elusen, er y bydd The Tywi Gateway Trust yn parhau fel ein teitl cofrestredig cyfreithiol.

Esboniodd Betsan Caldwell, Cadeirydd y Bwrdd “Roeddem eisiau gwella adnabyddiad o enw Parc yr Esgob a’r ymddiriedolaeth sy’n gofalu amdano ymysg ymwelwyr, partneriaid ac eraill. Mae’r enw newydd yn cyd-fynd lawer gwell â’n cenhadaeth ac yn osgoi dryswch.”

Ni fydd y newid yn effeithio ar ein cyfansoddiad na gwybodaeth masnachu, ond bydd deunydd marchnata, safleoedd cyfryngau cymdeithasol a chyfeiriadau e-byst staff yn defnyddio’r enw gweithredol newydd.

Wythnos Rosie mewn Lluniau – Chwefror 2026

Gall ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth fod yn anodd, felly roeddem wrth ein bodd yn croesawu Rosie am 4 diwrnod o brofiad gwaith ym mis Chwefror 2026.

Dyma Flog Rosie:

Diwrnod 1

Dechreuodd gwibdaith o gwmpas y parc yng Ngardd Jenkinson, o flaen Amgueddfa Sir Gâr. Dysgais i fod planhigion a pherlysiau llesol yn arfer cael eu tyfu yng ngardd Palas yr Esgob. Mae nifer fawr o goed hardd yn tyfu’n uchel iawn yn y goedwig gan gynnwys coed ffawydd enfawr a sequoias. Ro’n i wrth fy modd i weld y ddôl a’r llyn. Llyn ‘oxbow’ yw e, rhywbeth  y dysgais amdano yn yr ysgol ond erioed wedi ei weld tan imi ddod yma. Gwelais i gynefin y dwrgi hefyd!

Treuliais i amser yn y twnnel tyfu yn plannu ‘toriadau’ o blanhigion sy’n tyfu yn y parc – mae’n braf meddwl bydd rhai o’r planhigion hyn yn ffynnu yn sgil fy ngwaith.

Diwrnod 2

Es i am dro bach yn gyntaf. Tynnais i luniau o ffwng o gwmpas y parc

Cwrddais â’r tîm gwirfoddoli – roedd pawb mor groesawgar. Mewn grwpiau, plannon ni flodau gwyllt er mwyn creu lawnt fwy amrywiol. Teimlais fod gweithio mewn tîm yn golygu eich bod chi’n dysgu wrth wylio pobl eraill – dysgais i enwi sbesimen madarch: Cynffon Twrci

Cawson ni ginio (gan gynnwys cacen!), wedyn cadw’n brysur yn plannu blodau gwyllt , chwynnu rhai gwelyau blodau a chloddio rhai twmpathau gwahaddod, gan ddarganfod, er ei bod hi’n oer y tu allan, fy mod i’n cadw’n gynnes trwy weithio.

Gorffennais y diwrnod yn pecynnu hadau fel y rhai sydd ar werth yn y siop – ces i fy synnu i weld ba mor wahanol yw hadau, mae hadau blodau cawl yn edrych fel tentaclau octopws!

Diwrnod 3

Dechreuais i blannu hadau – rhywbeth ro’n i wir yn mwynhau dysgu ei wneud yn enwedig wrth ystyried dod yn ôl yn yr haf er mwyn gweld y planhigion yn tyfu.

Am y rhan fwyaf o’r dydd, roeddwn i’n brysur iawn yn tynnu lluniau o bethau diddorol. Mae cymaint mwy i’w weld yn y gaeaf nag oeddwn i’n ei ddisgwyl!

Treuliais i amser cinio gyda grŵp o wirfoddolwyr gwahanol. Roedd yn braf cwrdd â phobl newydd.

Rhoddais hadau amrywiol mewn pacedi yn barod i’w gwerthu.

Mynychais gyfarfod yn trafod beth sy’n mynd ymlaen yn y parc. Mae prosiect yr Ardd Furiog yn swnio’n ddiddorol iawn. Roedd yn fy helpu i i ddeall pa mor fawr yw’r cyfrifoldebau o ran rheoli’r parc.

Diwrnod 4 – Y diwrnod olaf

Gydag offer garddio, torron ni lawrwydd o lannau’r llyn ‘oxbow’ lan i’r goedwig, ac yn sgil hynny, ces i olygfa braf o’r llyn. Cefais i hwyl yn symud lan lethrau serth gan ddefnyddio fy nwylo a fy nhraed.

Helpais i ddadlwytho coed a fydd yn cael eu plannu yn y goedwig ac ar lannau’r afon – ro’n i’n gallu gwahaniaethu rhwng sawl math gan gynnwys fy hoff goeden – y ddraenen wen.

Ar ôl i mi orffen torri’r lawrwydd cawson ni ginio yng nghaffi Stacey (Bwyd ffein!)

Wedyn, es i am daith o gwmpas arddangosfa Eifftaidd yr amgueddfa – ro’n i wrth fy modd! Tynnais I lwyth o luniau a dw i’n edrych ymlaen at fwrw golwg drostyn nhw nes ymlaen.

Cyn i mi orffen fy mhrofiad gwirfoddoli, ail-lenwais y planhigion oedd ar werth yn y dderbynfa.

Ro’n i ar ben fy nigon yn gwirfoddoli ym Mharc yr Esgob. Ac mae’n teimlo fel fy mod i wedi dysgu cymaint wrth ei wneud. Yn sgil fy ymdrechion, gobeithio bod dealltwriaeth well ‘da fi am sut i gynnal a chadw’r parc. Y peth pwysicaf a ddysgais oedd beth bynnag yw eich diddordebau, bydd rhywbeth ar gael i bawb ei drafod neu rywbeth newydd i’w ddysgu.

Diolch am roi’r cyfle i mi!

 

Cyflwyno Connie – Myfyriwr Lleoliad Gwaith ym Mharc yr Esgob 2026

Gall fod yn anodd ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth. Mae gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn ein helpu i ddeall sut i wneud hynny’n well.

Dyma stori Connie.

“Helo! Fy enw i yw Connie. Rwy’n fyfyriwr Meistr Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth 21 oed ym Mhrifysgol Abertawe, ac rwy’n gwneud fy lleoliad gwaith ym Mharc yr Esgob. Rwy’n dod o Surrey yn wreiddiol, ond rwyf wedi bod yn Abertawe ers bron i bedair blynedd bellach gan fy mod hefyd wedi gwneud fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n credu’n gryf y dylai hanes fod ar gael i bawb ac y dylai pawb werthfawrogi hanes lleol a thu hwnt, rhywbeth rwy’n credu bod y Parc yn gwneud yn dda. Rwy’n teimlo bod gwneud treftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb yn rhan bwysig o ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol o fewn cymunedau yn ogystal â’r wlad gyfan.

Rwyf am adeiladu gyrfa yn y sector treftadaeth, ac felly rwy’n edrych ymlaen at y profiad o wethio yn y Parc. Yn benodol, hoffwn ddysgu am sut mae tîm Parc yr Esgob yn ymgysylltu â’r cyhoedd, ac am dreftadaeth arddwriaethol, maes nad wyf wedi’i archwilio o’r blaen.

Rwy’n gyffrous iawn i ddechrau gan fy mod yn edrych ymlaen at ddysgu cymaint ag y gallaf tra fy mod ym Mharc yr Esgob. Rwy’n gobeithio cyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad rhan mor arwyddocaol o’r hanes lleol.”

Croeso Connie!

Mae’r llun yn dangos Connie yn cefnogi’r Swyddog Addysg Gemma ar ymweliad ysgol.

Cyflwyno Ben – Myfyriwr Lleoliad Gwaith ym Mharc yr Esgob 2026

Gall fod yn anodd ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth. Mae gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn ein helpu i ddeall sut i wneud hynny’n well.

Dyma stori Ben.

“Helo, fy enw i yw Ben ac rwy’n fyfyriwr Meistr Hanes 23 oed ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi dewis Parc yr Esgob ar gyfer fy lleoliad gwaith. Rwy’n dod o Abertawe, lle rwyf wedi byw am y rhan fwyaf o fy mywyd, ar wahân i dreulio blwyddyn yn astudio yn yr Unol Daleithiau, a roddodd y cyfle i mi brofi sut mae treftadaeth yn cael ei harchwilio mewn diwylliant gwahanol. Mae gen i angerdd gwirioneddol dros hanes Cymru, yn enwedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ac rwy’n arbennig o awyddus i weld sut mae hanes lleol yn helpu i gysylltu cymunedau â lleoedd a’r amgylchedd o’u cwmpas.

Rwy’n gobeithio adeiladu gyrfa yn y sector treftadaeth, a thrwy wirfoddoli ym Mharc yr Esgob fy nod yw datblygu sgiliau ymarferol a’r profiad sydd ei angen i wneud hynny. Trwy fy amser yn y Parc, rwy’n gobeithio dysgu mwy am ei hanes cyfoethog, cyfrannu at y datblygiad parhaus, cynorthwyo gyda’r gwaith cadwraeth, a chefnogi ymdrechion i wneud y safle’n fwy hygyrch.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wirfoddoli yn y Parc i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a helpu i gyflwyno cymuned ehangach i hanes Esgobion Tyddewi a’r Parc, tra hefyd yn chwarae rhan fach yn sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r safle pwysig hwn.”

Croeso Ben!

Mae’r llun yn dangos Ben yn gweithio fel rhan o’r tîm Gwirfoddolwyr Garddwriaethol.

Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol

Manylion y Cynnig

Yn ystod yr Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol hon, mae Parc yr Esgob yn dathlu’r hanesion cudd a’r mannau anhysbys yn ein parc a’n gerddi rhyfeddol yr ydym yn eu hadfywio.

Fel diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn agor ein drysau ac yn eich gwahodd i ddatgelu’r straeon, y mannau a’r strwythurau llai adnabyddus y mae eich cefnogaeth yn ein helpu i’w darganfod, eu datgelu a’u hadfer. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eiliad arbennig yma ar Fawrth 11.

Ein cynnig yw ar gyfer:

Mae nifer tocynnau yn gyfyngedig, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi. Rhaid archebu pob tocyn trwy Eventbrite.

Ewch i www.parcyresgob.org.uk i gael gwybod mwy; ac i weld cyfarwyddiadau, manylion teithio, hygyrchedd a gwybodaeth am barcio. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Sut i gymryd rhan

Archebwch eich tocyn ar Eventbrite gan ddefnyddio’r dolenni uchod. Dewch â’ch tocyn Loteri Genedlaethol, Cerdyn Crafu, neu Gêm Ennill Ar Unwaith i ddangos eich bod yn Chwaraewr y Loteri Genedlaethol, fel y gallwch fwynhau mynediad am ddim i un o’n gweithgareddau am ddim. Cyflwynwch eich tocyn gweithgaredd a’ch tocyn Loteri Genedlaethol i aelod o’n tîm yn y dderbynfa a gwnewch y gorau o’ch ymweliad!

Os ydych chi’n dangos tocyn ar eich ffôn, lawrlwythwch ef cyn i chi gyrraedd.

Mae lleoedd yn gyfyngedig iawn, felly archebwch ymhell ymlaen llaw ar Eventbrite, a gwnewch yn siŵr bod gennych le ar eich gweithgaredd dewisol cyn i chi deithio.

Bydd y gweithgareddau yn yr awyr agored felly gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau cadarn. Os yw’r tywydd yn eithafol, fe gynhelir y gweithgareddau o dan do yn ein Ystafell Ddysgu.

Byddwn yn cadw at y llwybrau llydan, hygyrch ac mae toiled hygyrch a maes parcio gerllaw.

Ewch i https://parcyresgob.org.uk/ i gael gwybod ychydig mwy; ac i wirio cyfarwyddiadau, manylion teithio, hygyrchedd a gwybodaeth am barcio. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Telerau ac amodau

Bydd Parc yr Esgob yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol gyda chynnig arbennig o Fynediad Am Ddim i Deithiau a Bingo Botanegol ar 11 Mawrth 2026

Mae’r cynnig hwn ar gyfer 11 Mawrth 2026 yn unig.

Mae angen archebu ymlaen llaw trwy Eventbrite ac mae lleoedd yn gyfyngedig.

Dewch â’ch tocyn Loteri Genedlaethol, Cerdyn Crafu, neu Gêm Ennill Ar Unwaith i fwynhau mynediad am ddim. Cyflwynwch ef i aelod o staff yn y dderbynfa, gyda’ch tocyn gweithgaredd a gwnewch y gorau o’ch ymweliad!

Os ydych chi’n dangos tocyn ar eich ffôn, lawrlwythwch ef cyn i chi gyrraedd – gall y signal yn ein heiddo fod yn anghyson.

Bydd un tocyn Loteri Genedlaethol (papurneu ddigidol), Cerdyn Crafu, neu Gêm Ennill Ar Unwaith yn rhoi mynediad am ddim i 1 person i un gweithgaredd ar 11 Mawrth. Ni ellir trosglwyddo tocynnau Loteri Genedlaethol wrth y pwynt mynediad. Mae gemau Loteri Genedlaethol cymwys yn cynnwys pob Gêm sy’n seiliedig ar hap, Cerdyn Crafu a Gemau Ennill Ar Unwaith.

Nid yw dyddiad prynu gêm y Loteri Genedlaethol na dyddiad unrhyw raffl yn berthnasol i gymhwysedd.

Dim ond yn ystod oriau agor arferol (9yb-5yp) y ceir mynediad i adeiladau.

Cyflwynwch eich archeb a’ch tocyn yn y dderbynfa wrth gyrraedd. Dim ond gyda chadarnhad archeb a thocyn y derbynnir mynediad am ddim.

Ni ellir defnyddio’r cynnig hwn ar y cyd ag unrhyw gynnig arall ac nid oes ganddo werth ariannol.

Ni ellir trosglwyddo’r cynnig hwn rhwng ymwelwyr.

Dim ond fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd y bydd data personol a roddir yn ystod yr hyrwyddiad hwn yn cael ei brosesu.

Mae pob cynnig yn amodol ar argaeledd.

Mae gan Barc yr Esgob yr hawl i wrthod mynediad os bydd y lleoliad/cynnig yn llawn, yn ogystal ag amgylchiadau annisgwyl.

Os bydd ymholiadau ar y diwrnod, mae penderfyniad y sefydliad yn derfynol.

Ni ellir cyfnewid y cynnig hwn.

Mae dyn a dau blentyn ifanc yn sefyll gyda'i gilydd ar lawnt laswelltog yn llawn blodau gwyllt y tu allan i adeilad carreg mawr, hen gyda llawer o ffenestri. Mae'r plant yn gwenu tra bod y dyn yn penlinio ac yn gwneud ystum, yn gwisgo sbectol haul.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Datblygu!

Ers 2017, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cyflawni prosiect adfer gwerth £2.4m gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri i adnewyddu’r gerddi, y parcdir, y llwybrau, y caffi a’r cyfleusterau ymwelwyr, ac yn 2023, llwyddwyd i gael cefnogaeth bellach o £1.8m pellach i adfer a thrawsnewid yr ardd furiog dirywiedig yn ofod cymunedol, dysgu a garddwriaethol aml-bwrpas erbyn 2027.

Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu yn arwain cam nesaf y daith—gan yrru cynnydd mewn incwm, gwella profiad ymwelwyr, ehangu partneriaethau, ac adeiladu dyfodol cynaliadwy i Barc yr Esgob fel atyniad treftadaeth trwy gydol y flwyddyn ac adnodd cymunedol. Mae hon yn rôl allweddol i unigolyn egnïol, arloesol a chreadigol sy’n awyddus i lywio dyfodol i dirwedd hanesyddol unigryw.

Ceir manylion pellach ar  y wefan isod:

 

Tywi Gateway Trust Careers and Employment

uk.indeed.com

Cyfleoedd Gwirfoddoli

Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â annemay@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Ac wrth gwrs, mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli i helpu gyda garddio a chynnal a chadw, a chroesawu ymwelwyr yn y dderbynfa, cynorthwyo gyda digwyddiadau a chynnal ymchwil hanesyddol…..

Croeso MAWR i’r tîm!

Croeso cynnes i Gemma Edwards, y Swyddog Addysg newydd ym Mharc Yr Esgob, a ymunodd â ni ym mis Medi fel rhan o’n Prosiect Adfer yr Ardd Furiog.

Mae athro yn sefyll wrth fwrdd du mawr, yn dal llun du a gwyn i grŵp o ddisgyblion sylwgar sy'n eistedd wrth fyrddau pren hen ffasiwn mewn ystafell ddosbarth hen ffasiwn.

Mae gan Gemma brofiad helaeth fel athrawes y Cyfnod Sylfaen, gyda brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a llond trol o syniadau. Rydyn ni wrth ein boddau o allu rhannu’r newyddion bod Gemma hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid CofGar fel Swyddog Treftadaeth Ysgolion, felly mae’n berffaith addas i gydlynu ymweliadau â Pharc yr Esgob a hefyd â’r Amgueddfa Sir Gâr, sydd wedi’i lleoli yn y parc.

I ategu gwaith Gemma gyda’r ysgolion, rydyn ni’n chwilio am athrawon llawrydd profiadol sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i gynnal sesiynau achlysurol.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at ymuno â’r tîm,” meddai Gemma, “a gweithio gyda chydweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr i ysbrydoli cariad at ddysgu.”

Dyma luniau o ymweliad addysgol cyntaf Gemma, a drefnwyd gan CofGar a Pharc yr Esgob ar gyfer Ysgol Eglwys yng Nghymru Llwynogod, gan weithio gyda’r Swyddog Ymgysylltu Anne May i wneud cysylltiadau bwyd rhwng yr Amgueddfa, yr Ardd Furiog a’r Ail Ryfel Byd yn Sir Gaerfyrddin.

 Mae grŵp o blant ysgol, rhai yn gwisgo glas tywyll a rhai mewn melyn, yn sefyll yn yr awyr agored gyda'u dwylo wedi'u codi, yn gwrando ar fenyw sy'n oedolyn yn gwneud ystum tuag at goeden mewn gardd neu leoliad naturiol.  Mae menyw yn siarad â grŵp o blant mewn gwisgoedd ysgol y tu mewn i ystafell gyda waliau pren a stondinau cerddoriaeth. Mae un plentyn yn pwyso ar biano tra bod eraill yn gwrando'n astud ar y fenyw. Logos Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, ac Ymddiriedolaeth y Pilgrim, sy'n dynodi cyllid neu gefnogaeth gan y sefydliadau hyn.

 

 

 

Gardd o Atgofion: Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Gardd Furiog Abergwili a rhannu ei straeon cudd

Mae gardd furiog anghofiedig yn Abergwili, a oedd unwaith wrth galon ystâd esgob, am flodeuo eto diolch i grant o £1.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond nid y brics, y tai gwydr na’r berllan hynafol yn unig sy’n cael eu hadfywio, ond atgofion y bobl a fu’n byw, gweithio a thyfu yno.

Mae Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, sy’n gyfrifol am adferiad Parc yr Esgob ers 2017, yn rhoi’r straeon personol hyn wrth wraidd prosiect newydd uchelgeisiol 30 mis yn yr Ardd Furiog.  Yn ogystal ag ailadeiladu tri thŷ gwydr hanesyddol a bwthyn y garddwr, bydd yr adferiad gofalus hwn yn creu cyfleusterau aml-bwrpas ar gyfer dysgu, hyfforddiant, adferiad iechyd, lles a digwyddiadau dathlu. Bydd y prosiect hefyd yn adrodd a bywiogi straeon y rhai a oedd unwaith yn byw ac yn gweithio yno.

Ymhlith y cofnodion mwyaf hudolus mae dyddiaduron personol Gwenonwy Davies (1887–1981), merch hynaf yr Esgob John Owen, a fagwyd ym Mhalas yr Esgob: “Fe wnaethon ni dyfu pîn-afal am flynyddoedd,” ysgrifennodd. ” Hefyd roedd gennym dŷ gwinwydd hyfryd, wedi’i rannu’n ddau fel bod dilyniant o rawnwin. Roedd gan dŷ bychan arall degeirianau a llawer o redyn briger Gwener yn tyfu ynddo.”

Mae ei disgrifiadau byw yn paentio darlun o geinder a gwaith caled mewn ecosystem fregus a gai ei bweru gan goed tân, bechgyn ffwrnais a dwylo cadarn garddwyr medrus.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn defnyddio’r cofnodion hyn, ynghyd â dogfennau’r cyfrifiad a hanesion llafar mwy diweddar, i adeiladu archif fyw sy’n anrhydeddu’r rhai a weithiodd y tu ôl i’r llenni. Un ohonynt yw stori Arthur Sinclair Wolstoncroft, 16 oed, a deithiodd o Swydd Gaerhirfryn i Abergwili ar gyfer rhagolygon gyrfa ar gynnig fel aelod o staff yr Esgob. ac a restrir yng nghyfrifiad 1911 ymhlith y gweision fel ‘Page’.

Yn ôl Rheolwr y Prosiect, Louise Austin: “Straeon fel un Arthur sy’n cydio yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Maen nhw’n ein hatgoffa nad adeiladau mawreddog a digwyddiadau mawr yn unig yw treftadaeth – mae’n ymwneud â phobl a’u bywydau bob dydd.”

“Nid adferiad yn unig yw hwn – mae’n sgwrs ar draws cenedlaethau,” meddai Louise. “Mae’n ymwneud â dysgu o’r gorffennol tra’n creu rhywbeth ystyrlon ar gyfer y presennol. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr a gwirfoddolwyr oll deimlo cysylltiad personol â’r lle hwn, ac i dynnu ysbrydoliaeth a phrofiadau ohono a all eu helpu yn eu bywydau bob dydd.”

Mae’n gwirfoddolwr Richard yn un o’r bobl sydd wedi elwa o Barc yr Esgob. “Ddes i yma llynedd gyda grŵp o’r Wallich i weld a oedden ni eisiau cymryd rhan. Penderfynodd y grŵp ddod unwaith yr wythnos am raglen 10 wythnos i ddysgu am arddio a gofalu am y parc. Nawr rwy’n dod fel gwirfoddolwr annibynnol – 3 diwrnod yr wythnos! Mae cael rhywbeth i’w wneud bob dydd wedi rhoi pwrpas i mi – ac mae’n fy ngalluogi i fentro allan. Mae wedi helpu’n fawr gyda fy iechyd meddwl. Rwy’n mwynhau bod ym Mharc yr Esgob a rwy’n gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn edrych ar ei orau ar gyfer ymwelwyr.”

Wedi’r arferiad, bydd yr ardd yn cynnal dathliadau cymunedol, gweithgareddau addysgol a pherfformiadau cyhoeddus, wedi’u dylanwadu gan atgofion byw y rhai a gerddodd ei llwybrau gynt.

Bydd rhaglen hyfforddi garddwriaethol newydd yn parhau’r traddodiad adrodd straeon. Bydd garddwyr ifanc sy’n rhan o’r prosiect yn rhannu eu profiadau, gan ychwanegu lleisiau newydd at etifeddiaeth esblygol yr ardd.

Mae’n amser prysur i’r tîm prosiect, a drefnodd lansiad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, gwirfoddolwyr y prosiect a newyddiadurwyr ar Orffennaf 30ain. Mae archaeolegwyr gwirfoddol wrthi’n gweithio gyda thîm o Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru – yn ymchwilio i weddillion y systemau gwresogi yn adfeilion y tai gwydr, lle tyfai pîn-afalau a thegeiriannau gynt. Gallwch ymweld â’r cloddiad gorffenedig ar ddydd Sadwrn, Awst 16eg rhwng 2yp a 4yp.

Mae prosiect yr Ardd Furiog hefyd yn derbyn arian cyfatebol o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, £150,000 gan Sefydliad Garfield Weston, £100,000 gan ddyngarwr treftadaeth yng Nghymru a £20,000 gan Ymddiriedolaeth Pilgrim, yn ogystal â chyllid cyfatebol gwerthfawr o gyfranogiad gwirfoddolwyr.   Yn ei gyfanswm, mae’r prosiect yn werth tua £2 miliwn.

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, Betsan Caldwell: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfle hwn i rannu nid yn unig harddwch corfforol yr ardd, ond hefyd ei gwir enaid – straeon, sgiliau a doethineb tawel y rhai a gyfranodd at ei ffyniant dros y blynyddoedd.”

Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol yn parcyresgob.org.uk/cy/whats-on.

 

Nodiadau i Olygyddion

Ffotograffau

Gellir cyrchu ffotograffau o’r digwyddiad yma: https://www.dropbox.com/scl/fo/oo65c348izlfn510p89zh/AL9LLDu3UICRG-jfaF39QIY?rlkey=puqjh3bedbdtfwe0x0assfg8f&st=p0bk57u8&dl=0

Parc yr Esgob

Mae Parc yr Esgob yn rhan o hen ystâd Esgobion Tyddewi sydd heddiw yn cynnwys Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Fe’i rheolir gan Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob a sefydlwyd yn 2016 ac a enillodd Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2024.

Mae bwrdd o 10 o ymddiriedolwyr cymunedol lleol yn rhedeg yr Ymddiriedolaeth.  Ein gweledigaeth hirdymor yw “gwarchod a harneisio asedau niferus Parc yr Esgob – ei dreftadaeth, ei fio-amrywiaeth, ei amwynderau a’i leoliad – i sicrhau dyfodol cynaliadwy sy’n dod â phwrpas, dysgu, lles a phleser i fywydau’r ystod ehangaf o bobl.”

https://parcyresgob.org.uk/cy

Dilynwch @ParcYrEsgob ar Twitter/X, Facebook ac Instagram

Mwy am Gwenonwy

Gwenonwy Davies (née Owen) (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen (1854-1926) ac  mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dau fwndel o lyfrau ymarferion sy’n cynnwys ei hunangofiant o’i chyfnod ym Mharc yr Esgob sef gardd breifat ei thad, yr Esgob Owen, adeg hynny.

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel yr ariannwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, rydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Heritage 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu yng ngrym treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i adeiladu balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.

Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6 biliwn a godir at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.

heritagefund.org.uk/cy

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter/X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery #HeritageFund

Ynglŷn â Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

Mae cyllid Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid mannau ble mae pobl yn dod ynghyd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael cymorth pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Mae’r rhaglen ar agor i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a’i nod yw cynyddu cyfle, creu ffyniant i bawb a datblygu cymunedau cadarn ble mae pobl yn cael eu grymuso ac yn cymryd rhan.

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol | LLYW.CYMRU

Newyddion Llywodraeth Cymru/Hwb cyllid yn rhoi bywyd newydd i fannau lle mae cymunedau’n dod ynghyd

Ynglŷn â Sefydliad Garfield Weston

Sefydlwyd Sefydliad Garfield Weston yn 1958, sef elusen a sefydlwyd gan deulu sy’n rhoi arian i gefnogi amrywiaeth eang o elusennau ledled y DU. Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad yn rhoi ei incwm i ffwrdd ac mae’r dyfarniadau wedi parhau i dyfu. Ers ei sefydlu, mae wedi rhoi dros £1.5 biliwn, o’r hwn y mae dros hanner wedi’i roi i ffwrdd yn y deg mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rhoddodd y Sefydliad fwy na £100 miliwn i bron i 1,800 elusen ledled y DU.

www.garfieldweston.org

Ynglŷn â Ymddiriedolaeth Pilgrim

Mae’r Pilgrim Trust yn ymddiriedolaeth grant annibynnol sy’n cefnogi anghenion brys ac a ragwelir ym Mhrydain. Mae’n rhoi oddeutu £3 miliwn mewn grantiau bob blwyddyn i elusennau a chorfforaethau cyhoeddus eraill sy’n canolbwyntio naill ai ar gadwraeth treftadaeth y DU neu ar gatalyddu newid cymdeithasol.

Dilynwch ni: @ThePilgrimTrust (X), Pilgrim Trust (LinkedIn)

Ynglŷn â’r Wallich

Mae pawb yn haeddu’r hawl i gartref, ac mae’r Wallich hefyd yn credu bod pawb yn haeddu’r hawl i deimlo’n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i deimlo’n gadarnhaol am eu dyfodol.

thewallich.com/cy

Logos Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, ac Ymddiriedolaeth y Pilgrim, sy'n dynodi cyllid neu gefnogaeth gan y sefydliadau hyn.