
Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Chwefror yn ystod wythnos hanner tymor, ac roedd hi’n braf cael grŵp bach o ferched ifanc i ymuno gyda ni.
Welwyd arwyddion yr o ddyfodiad y gwanwyn wrth gerdded trwy Ardd Jenkinson ar ddechrau ein taith, gyda’r saffrwm a oedd yn picio trwy’r pridd mis diwethaf nawr yn eu blodau.
Roedd rhagor o arwyddion ar y coed gyda chwtau oen bach i weld ym mhobman a blagur ar ran fwyaf o’r coed. Roedd blagur ar yr ysgawen yn dechrau agor. Gwelwyd a chlywyd mwyalchen gwrw yn y llwyni wrth fynedfa llwybr y coedir ac fe welwyd haid o ji-binc yn y coedir, yng nghyd ac ysgythod a bran.
Clywyd titw mawr yn bloeddio yn agos i’r bont a sylwyd ar bâr o gwtieir yn y pisgwydd ar lan yr ynys, yng nghyd a gwiwer lwyd. Gellir gweld helygen deilgron yn ei flodyn ar yr ynys.
Er y llifogydd mis diwethaf, mae’r dŵr yn y pwll wedi cilio dipyn yn barod. Roedd 2 bar o elyrch dof ag un gwrw ar ben isaf y pwll. Gwelwyd nifer o hwyaid gwyllt, gan gynnwys un fenyw i fyny ar frigyn coeden wrth ochr y pwll!
Ar Y Waun Fawr, sylwyd ar ddau robin goch, sawl ysguthan a barcud. Yn y gwter sy’n rhedeg ar draws y cae o’r hen goeden dderw at y clawdd, roedd clwstwr mawr o griff. Sylwyd ar dwll wedi ei balu yn y pridd, ond roeddwn methu ag adnabod beth oedd wedi ei greu, roedd i weld yn rhy ddofn ac ar ongl anghywir i fod wedi ei greu gan gi. Ar hen goeden dderw, sydd â hollt mawr ynddo, welwyd beth yr ydym yn tybio yw wystrys y coed yn tyfu arno. Roedd blagur castanwydden y meirch yn fawr ac yn ludiog.
Yn y glaswellt sylwyd ar y dail tafol yn tyfu, ysgall yn dechrau gyrru, llaethlys, dinant, berw chwerw a rhwyddlwyn.
Ar y lawnt, roedd nifer o flodau llygaid yr haul ac ambell i flodyn Ebrill yn dod trwyddo, yng nghyd a charped o eirlys wrth ochr yr Ha-ha a’r llwybr.

Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Bwcio Teithiau Dywysedig ar gyfer Grwpiau
Ydych chi’n glwb, cymdeithas neu’n fudiad yn chwilio am rywle ar gyfer eich trip haf?
Ydych chi’n drefnydd teithiau ac yn chwilio am fan i ddod a’ch cwsmeriaid?
Pam na ddewch chi i Barc Yr Esgob? Gyda’n partneriaid Cegin Stacey ag Amgueddfa Sir Gar, fedrwn ni gynnig ddigon i’w weld a gwneud ar ein safle.
Bwciwch Daith Dywysedig o’r parc a’r gerddi a dysgwch am hanes y safle a’r hyn sydd yn ei wneud yn mor arbennig. Cymerwch dro o amgylch Amgueddfa Sir Gar, sydd wedi ei leoli o fewn Hen Balas Yr Esgob, i weld eu harddangosfa ddiweddaraf a’r arteffactau sy’n rhan o stori Sir Gaerfyrddin. Bwciwch fwrdd yng Nghegin Stacey er mwyn mwyhau cinio neu de prynhawn.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion: enquires@tywigateway.org.uk
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Mynediad i’r Ardd Furiog
Nid yw’r Ardd Furiog ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd am resymau iechyd a diogelwch. Er hynny, mae’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan ein garddwyr a gwirfoddolwyr garddwriaethol er mwyn tyfu cynnyrch i ‘Cegin Stacey’s Kitchen’.
Rydym yn cynnwys mynediad i’r Ardd Furiog yn ystod ein Teithiau Tywys rheolaidd ac yn ystod digwyddiadau arbennig, os yw’r tywydd yn caniatâi. Edrychwch ar ein tudalen ‘Beth Sy ‘Mlaen’ am fwy o wybodaeth.
Rydym yn flin ond does ddim mynediad i’r anabl ar hyn o bryd.
Os ydych yn digwydd gweld y drws ar agor a does ddim arwydd ei fod ar agor i’r cyhoedd, gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd i mewn.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad
Posted: 15/05/2023 by Ffiona Jones
App Actionbound
Mae’r llwybr i gael ar app ‘Actionbound’ ac y mae’n addas ar gyfer unrhyw oed.
https://actionbound.com/bound/history-of-parc-yr-esgob
Mi fydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.
Posted: 02/05/2023 by Ffiona Jones
A fedrech chi fod yn Ymddiriedolwr? Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr!
Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, sy’n rheoli Parc Yr Esgob, Abergwili, yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno gyda’i Bwrdd Ymddiriedolwyr.
A ydych yn byw yn y gymuned leol? Oes gennych un neu gyfuniad o sgiliau entrepreneuriaid neu sgiliau codi arian neu greu incwm, neu sgiliau marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus? Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan https://parcyresgob.org.uk/cy/could-you-be-a-trustee-why-not-join-our-board-of-trustees/
Dyddiad cau 30/06/2023
Posted: 26/04/2023 by Ffiona Jones
Cŵn ar Dennyn
Bydd rhai ymwelwyr eisioes wedi sylwi bod arwyddion newydd wedi cael ei gosod i’ch atgoffa i gadw eich ci ar dennyn wrth ymweld â’r parc.
Mae Parc Yr Esgob yn ardd bwysig am ei hanes, ei garddwriaeth ac am ei fywyd gwyllt, a dyna sy’n ei wneud yn mor arbennig.
Rydym am i bawb cael profiad da o ymweld â’r Parc, felly rydym yn gofyn i bob perchennog ci i ymddwyn yn gyfrifol â chadw eu cŵn ar dennyn ac wrth gwrs, codi eu baw i fyny a’i osod yn y biniau (mae 3 o fewn y Parc a hefyd rhai yn y maes parcio allanol). Helpwch diogeli plant a bywyd gwyllt.
Posted: 05/04/2023 by Ffiona Jones
Stacey’s Kitchen
Bydd Stacey’s Kitchen yn cau am 3:30yp heddiw, dydd Mercher 5ed o Ebrill 2023 ar gyfer digwyddiad preifat.
Byddant ar agor o 9:00yb tan 5:00yp bob dydd o ‘fory ymlaen.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleistra.
Posted: 07/03/2023 by Ffiona Jones
Ffair Blanhigion Y Gwanwyn
Bydd ein hail Ffair Blanhigion Y Gwanwyn yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 29ain o Ebrill 2023, i agor am 11yb.
Bydd ystod o stondinau gan dyfwyr lleol, yng nghyd a busnesau lleol eraill. Byddwn yn cynnal teithiau tywys o amgylch y parc a’r gerddi, yng nghyd a sgyrsiau ac arddangosiadau yn ystod y dydd.
Os hoffech archebu lle ar gyfer stondin, llenwch y ffurflen isod a dychwelwch at FfionaJones@tywigateway.org.uk neu ar gyfer ymholiadau pellach, cysylltwch â’n Prif Arddwr, Piers Lunt ar 07444438168 neu Ffiona ar 07395082719
file:///C:/Users/FfionaJones/Documents/Stall%20Booking%20Plant%20Fair.pdf
Posted: 28/02/2023 by Ffiona Jones
Taith Nodi Bywyd Gwyllt Chwefror 2023
Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Chwefror yn ystod wythnos hanner tymor, ac roedd hi’n braf cael grŵp bach o ferched ifanc i ymuno gyda ni.
Welwyd arwyddion yr o ddyfodiad y gwanwyn wrth gerdded trwy Ardd Jenkinson ar ddechrau ein taith, gyda’r saffrwm a oedd yn picio trwy’r pridd mis diwethaf nawr yn eu blodau.
Roedd rhagor o arwyddion ar y coed gyda chwtau oen bach i weld ym mhobman a blagur ar ran fwyaf o’r coed. Roedd blagur ar yr ysgawen yn dechrau agor. Gwelwyd a chlywyd mwyalchen gwrw yn y llwyni wrth fynedfa llwybr y coedir ac fe welwyd haid o ji-binc yn y coedir, yng nghyd ac ysgythod a bran.
Clywyd titw mawr yn bloeddio yn agos i’r bont a sylwyd ar bâr o gwtieir yn y pisgwydd ar lan yr ynys, yng nghyd a gwiwer lwyd. Gellir gweld helygen deilgron yn ei flodyn ar yr ynys.
Er y llifogydd mis diwethaf, mae’r dŵr yn y pwll wedi cilio dipyn yn barod. Roedd 2 bar o elyrch dof ag un gwrw ar ben isaf y pwll. Gwelwyd nifer o hwyaid gwyllt, gan gynnwys un fenyw i fyny ar frigyn coeden wrth ochr y pwll!
Ar Y Waun Fawr, sylwyd ar ddau robin goch, sawl ysguthan a barcud. Yn y gwter sy’n rhedeg ar draws y cae o’r hen goeden dderw at y clawdd, roedd clwstwr mawr o griff. Sylwyd ar dwll wedi ei balu yn y pridd, ond roeddwn methu ag adnabod beth oedd wedi ei greu, roedd i weld yn rhy ddofn ac ar ongl anghywir i fod wedi ei greu gan gi. Ar hen goeden dderw, sydd â hollt mawr ynddo, welwyd beth yr ydym yn tybio yw wystrys y coed yn tyfu arno. Roedd blagur castanwydden y meirch yn fawr ac yn ludiog.
Yn y glaswellt sylwyd ar y dail tafol yn tyfu, ysgall yn dechrau gyrru, llaethlys, dinant, berw chwerw a rhwyddlwyn.
Ar y lawnt, roedd nifer o flodau llygaid yr haul ac ambell i flodyn Ebrill yn dod trwyddo, yng nghyd a charped o eirlys wrth ochr yr Ha-ha a’r llwybr.

Posted: 21/12/2022 by Ffiona Jones
Oriau Agor y Ganolfan Ymwelwyr dros Y Nadolig
Posted: 11/10/2022 by Ffiona Jones
Teithiau Nodi Bywyd Gwyllt yn Dychwelid
Rydym yn ail-ddechrau ein teithiau misol i nodi bywyd gwyllt Parc Yr Esgob ar ôl seibiant dros yr haf. Mae arsylwi a nodi’r bywyd gwyllt ar draws y safle yn rhan bwysig o’r gwaith ecolegol yr ydym yn ei wneud yma ym Mharc Yr Esgob. Mae’n galluogi ni i weld os yw’r gwaith yr ydym wedi ei gyflawni yn barod yn gweithio i ehangu bioamrywiaeth y safle.
Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni, gan gynnwys naturiaethwyr profiadol, neu aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am yr amgylchedd naturiol.
Byddwn yn cwrdd wrth y dderbynfa am 2 o’r gloch y prynhawn ar y 3ydd dydd Mawrth o’r mis. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau cadarn neu wellingtons.