enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Yn eisiau – Ymddiriedolwyr

Ydych chi’n caru Caerfyrddin? Ydych chi’n gofidio am ein treftadaeth, tirwedd a’r amgylchedd? Hoffech chi gyfrannu o’r cychwyn at rywbeth newydd a chyffrous?

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – Tywi Gateway Trust (bellach yn cael ei adnabod fel Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob) i gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei gyrru gan y gymuned, i ailddatblygu Parc yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin. Mae’r parc, a gofrestrwyd fel Gradd II, a’i erddi pleser a muriog,  yn nodedig am ei hanes diwylliannol ac archeolegol, yn ogystal â nodweddion tirweddol gan gynnwys y Ddôl Fawr, Pwll yr Esgob (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a’r ‘ha-ha’ enwog. Mae adeilad rhestredig a chyn-balas Esgobion Tyddewi yng nghanol y parc, a hwn bellach yw cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

Ein gweledigaeth yw creu lle y gallwn i gyd fod yn falch ohono – er mwynhad, hamdden, dysgu, cyfranogi a hwyl. Byddwn yn integreiddio ein cyfleusterau i ymwelwyr gyda rhai’r amgueddfa er mwyn sicrhau dyfodol y ddau – partneriaeth gwbl unigryw. Yn ddiweddar, cychwynodd dau aelod o staff newydd – Rheolwr yr Ymddiriedolaeth a’r Pen Garddwr.

Mae rhai o’n Ymddiriedolwyr yn ymddeol cyn hir, ar ddiwedd y cyfnod datblygu, a rydym yn chwilio am uchafswm o 5 ymddirieolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd i gynnal y prosiect trwy’r cyfnod nesa . Rôl ein Hymddiriedolwyr yw sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu yn unol â gofynion cyfreithiol ac ariannol cwmni ac elusen, ac i fod yn gyfrifol fel tîm am lywodraethu cyffredinol, arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol.

Rydym yn chwilio’n benodol am bobl gyda phrofiad rheolaeth mewn cyllid (mae ein Trysorydd yn ymddeol fis Tachwedd), yn ogystal â chodi arian, addysg, atyniadau treftadaeth, marchnata a chyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, byddai sgiliau ym meysydd busnes, garddwriaeth, yr amgylchedd naturiol ac adeiladwaith, a’r celfyddydau o ddiddordeb. Hoffem hefyd weld mwy o siaradwyr Cymraeg ar y Bwrdd. Byddai profiad o weithio mewn neu gyda cyrff aelodaeth yn y sector wirfoddol yn ddefnyddiol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan (CC3) Yr Ymddiriedolwr Hanfodol https://www.gov.uk/government/publications/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3

Manylion cyswllt: enquiries@tywigateway.org.uk

Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yw’r Ymddiriedolaeth, gydag aelodau sy’n pleidleisio ar wahân i Ymddiriedolwyr yr Elusen. Rhif SCE Cofrestredig 1167244. 

Person yn sefyll mewn drws carreg gyda drws pren ar agor, yn edrych allan i ardd werdd, ffrwythlon gyda choed a phlanhigion sydd wedi gordyfu. Mae'r olygfa wedi'i goleuo gan olau dydd naturiol.

Drysau Agored – yr Ardd Gegin Furiog

Piers Lunt, Prif Arddwr Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn, yn agor y gat i'r Ardd Gegin Furiog
Piers Lunt, Prif Arddwr Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, yn agor y gat i’r Ardd Gegin Furiog

 

Ar 22 a 23 Medi, ynghyd ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, byddwn yn agor y drws i’r Ardd Gegin Furiog fel rhan o gynllun Drysau Agored Cadw, sy’n cynnig mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol yn ystod mis Medi.

Rhwng 11yb a 3yp gallwch gael mynediad i’r ardd waliog a gweld yr elfennau sy’n goroesi o Ardd Gegin yr Esgob cyn i’r prosiect cael ei ddechrau. Er bod yr ardd waliog yn ddiffaith ac wedi gordyfu ar hyn o bryd, mae coed ffrwythau wedi goroesi gyda chnydau da o ffrwythau i’w gweld a’u blasu. Bydd staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob wrth law i esbonio’r prosiect ac i wahodd ymwelwyr i ymuno â nhw ar eu taith adfer.

Dewch i’r Amgueddfa o 10yb hyd 4.30yp a dysgwch fwy am eu casgliadau – sydd yn ymestun o ddaeareg a llyfrau i sut i ofalu am eich trysorau cartref – gall y teulu i gyd ymuno â’r gweithgareddau hwylog.

Prif Arddwr Newydd

Mae’n bleser mawr gan  Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gyhoeddi penodiad Piers Lunt yn Brif Arddwr.

Bydd yn cychwyn ei swydd newydd ar Fedi’r 3ydd, 2018. Roedd Piers yn Arddwriaethydd Botanegol/ Tyfwr Coed yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC) a mae ganddo wybodaeth eang o, a brwdfrydedd dwfn am blanhigion a gerddi. Ei brif ddiddordeb yw cyfuno crefft garddwriaeth gyda nodweddion naturiol tra’n ceisio sicrhau cynllunio teimladwy.

Cred Piers fod “parciau a gerddi o bwysigrwydd hanfodol i iechyd a ffyniant y cymunedau o’u hamgylch, ynghŷd â mwynhad parhaol a diogel pob ymwelydd.” Bydd yn gweithio gyda thîmau o wirfoddolwyr fel y gwnaeth yn GFGC.

pierslunt@tywigateway.org.uk

Logo Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y DU, gyda symbol bysedd wedi'u croesi glas ar y chwith a thestun dwyieithog Saesneg-Cymraeg: heritage / treftadaeth a LOTTERY FUNDED / ARIENNIR GAN Y LOTERI.

Rheolydd Newydd yr Ymddiriedolaeth

Mae Bwrdd yr Ymddiredolwyr yn falch o gyhoeddi  fod Louise Austin wedi ei phenodi yn Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ac y bydd yn cychwyn  ei gwaith ar Awst 20fed, 2018.

Bydd yn gweithredu fel rheolydd prosiect a deilydd cyllid ar gyfer y gwaith ail-ddatblygu cyffroes ym Mharc yr Esgob. Yn archaeolegydd proffesiynol, bu’n gweithio am sawl blwyddyn yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn rheoli gwahanol broseictau cyn symud i’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol fel Swyddog Treftadaeth, i ddatblygu prosiect adfywio’r parcdir.

Cred Louise fod ei swydd newydd “yn gyfle gwych i adfer a gwarchod y parc hanesyddol a phwysig  yma. Bydd hefyd o fudd i’r amgueddfa sirol, y gymuned leol yn nyffryn Tywi a’r ardal ehangach, trwy wella defnydd a mwynhad o’r safle.”

Gellir cysylltu gyda Louise drwy ebost – louiseaustin@tywigateway.org.uk

Logo Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y DU, gyda symbol bysedd wedi'u croesi glas ar y chwith a thestun dwyieithog Saesneg-Cymraeg: heritage / treftadaeth a LOTTERY FUNDED / ARIENNIR GAN Y LOTERI.

Rhoi eich barn!

Bydd yna deithiau cerdded misol i egluro a thrafod ein cynlluniau ar gyfer y prosiect, gan gynnwys yn yr ardd waliog.

Fe’u cynhelir ar y dyddiau Sadwrn canlynol, gan ddechrau o’r parc am 2.15 yp:

Mai 5ed, Mehefin 2ail, Gorffennaf 7fed, Awst 4ydd, Medi 1af, Hydref 6ed, Tachwedd 3ydd a Rhagfyr 1af.

Gellir trefnu teithiau tywys eraill a chyhoeddir y rhain ar wahân.

Sylwch fod rhai o’r  llwybrau’n anwastad ac efallai eu bod yn llithrig, felly argymhellir esgidiau cryf. Mae croeso i gwn, ar arweinwyr byr.

Ymunwch â ni a dywedwch am ddyfodol eich Parc!

Adnewyddu Gardd Goll Esgob Jenkinson

Mae llwybr coedwig heulog wedi'i orchuddio â dail brown yr hydref, wedi'i ffinio gan goed tal â changhennau noeth a rhywfaint o ddail gwyrdd, yn troi'n ysgafn trwy'r coed o dan awyr las glir.

Y Gerddi yn yr Hydref

Mae pob un ohonom yn gyffrous iawn ynghylch yr hyn sydd gan ddyfodol y parc i’w gynnig. Wrth edrych i adnewyddu’r tir, mae un o’r penderfyniadau mawr wedi bod trwy archwilio’r holl dystiolaeth sydd ar gael gan benderfynu ar ba gyfnod amser mae’r tir yn mynd i gael ei adnewyddu ynddo hefyd.

Ar ôl tipyn o waith ymchwil, penderfynwyd mai’r ysbrydoliaeth ar gyfer adnewyddu fydd sut oedd y parc yn edrych pan oedd John Jenkinson yn Esgob ar Dyddewi.

Pan ddaeth yn esgob ym 1825, gwelodd fod y palas a’r parc wedi dirywio. Gwariodd ei arian ei hun i ailadeiladu Palas yr Esgob ac ailgynlluniodd y tir. Cafodd y tir ei osod ar ffurf lle’r oedd y planhigion yn hoelio’r sylw. Dyma’r tro diwethaf i’r parc cyfan gael unrhyw waith tirlunio mawr wedi’i wneud.

Map hanesyddol du a gwyn yn dangos eiddo mawr gyda mannau wedi'u labelu, gan gynnwys palas, eglwys, gerddi, llwybrau, a chaeau cyfagos. Mae coed a ffyrdd wedi'u braslunio, gyda thir cyfagos wedi'i farcio "William Bayle Esq.".

Bu farw’r Esgob Jenkinson ym 1840, ond roedd ei waddol yn Abergwili eisoes wedi’i sicrhau, oherwydd yn yr un flwyddyn, disgrifiwyd ei balas fel ‘plasty uchelwrol’ a chydnabuwyd bod ‘tipyn o harddwch’ wedi’i ychwanegu at y tir trwy ei waith.

Mae’n gyffrous meddwl bron i 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach trwy weithio gyda’r gymuned, ein partneriaid a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, y gallwn helpu i adnewyddu’r ardd annwyl i lawer a cholledig hon, gan ddod â bywyd nôl iddi er mwyn i’r gymuned a chenedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.

Llun du a gwyn o blasty mawr, hen ffasiwn gyda nifer o simneiau a ffenestri, wedi'i amgylchynu gan lawnt a choed.

Y Plas a’r lawntiau o’r de ddwyrain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Trwy garedigrwydd Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin