Cefnogaeth i’r Prosiect gan Gymuned Abergwili

Mae’n bleser gan yr Ymddiriedolaeth gyhoeddi cefnogaeth bellach gan Gyngor Cymuned Abergwili tuag at adferiad Parc yr Esgob.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi cyfrannu rhodd ychwanegol  o £2,000 tuag at greu swydd Swyddog Cyswllt a Dysgu Cymunedol. Gan gychwyn fis Medi 2020, bydd deiliad y swydd yn annog a datblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr y parc ledled Sir Gâr. Bydd hefyd yn gweithio gyda grwpiau, clybiau, cymdeithasau a grwpiau diddordeb, yn ogystal â cholegau ac ysgolion i ddatblygu cyfleoedd dysgu a chreu gweithgareddau i archwilio’r hyn sy’n gwneud Parc yr Esgob, Hen Balas yr Esgob a chasgliadau’r Amgueddfa mor arbennig.

Meddai Betsan Caldwell, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth “Rydym wrth ein bodd fod y Cyngor Cymuned yn parhau i gefnogi ein gwaith o adfer a gwarchod y safle arbennig hwn. Bydd y prosiect, a gwblheir fis Medi 2021 gobeithio, yn creu caffi a gofod dysgu er mwyn annog mwy o bobol i ddod i archwilio’r hanes, ecoleg a garddwriaeth rhyfeddol yma ym Mharc yr Esgob.”

“Mae amryw o aelodau cymuned Abergwili eisoes yn cymeryd rhan gweithredol  yn adferiad y parc fel Ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr gan helpu i ail-greu ei ogoniant blaenorol, a rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth yn ymuno â nhw.”