Parc yr Esgob i ail-agor i ymwelwyr ar droed ym mis Gorffennaf

Er gwaethaf y cyfnod clo a chau Parc yr Esgob i’r cyhoedd, mae cynnydd mawr yn cael ei wneud wrth adfer y gerddi hanesyddol hyn yn Abergwili. Ym mis Mai dechreuodd yr adeiladwyr cadwraeth arbenigol David Siggery Cyf. ar y gwaith o drwsio waliau 250 oed yr ardd furiog, lle bu ffrwythau a llysiau yn cael eu tyfu ar un adeg i Esgobion Tyddewi. Mae’r adeiladwyr hefyd yn atgyweirio’r Ha-Ha 300m o hyd, sef ffos a wal isel a adeiladwyd i wahanu gerddi’r Esgob wrth yr anifeiliaid oedd yn pori ar y dolydd tu hwnt. Mae hwn yn nodweddiadol o ardd o’r 19eg ganrif cynnar, a ddyluniwyd fel bod gerddi’r Esgob i’w gweld yn ymestyn yn ddi-dor ar draws Dyffryn Tywi, fel dŵr pwll anfeidredd yn dod yn un gyda’r cefnfor.

Ochr yn ochr â phrosiect Drws i’r Dyffryn, mae gwaith atgyweirio hen dô Plas yr Esgob gan y Cyngor Sir yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda’r contractwyr, TAD Builders Ltd., yn gwneud yn fawr o’r tywydd braf.

Yng ngoleuni cyhoeddiad Cyngor Sir Caerfyrddin ar yr 11eg o Fehefin i ailagor parciau a gerddi Sir Gaerfyrddin, mae ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn gweithio gyda’r cyngor a chontractwyr y safle  i ail-agor Parc yr Esgob, Abergwili i’r cyhoedd mewn modd diogel ar y 3ydd o Orffennaf.

Yn ogystal â chadw at bellterau cymdeithasol ymysg ymwelwyr i’r Parc, mae angen gwneud trefniadau i gadw ein contractwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel. Gyda chynnydd mewn gweithgarwch a symudiadau cerbydau dau dîm o gontractwyr, bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar fynediad cerbydau i’r safle. Ar ôl ailagor, felly, byddwn yn croesawu ymwelwyr ar droed yn unig i ddechrau.