Amseroedd Diddorol
Golygfa bore gynnar dros yr ha-ha wedi’i glirio ac ar draws Dyffryn Tywi
Rydym wedi cyrraedd cyfnod cyffrous yn adferiad Parc yr Esgob, gyda’r cyntaf o’n contractwyr ar fin cychwyn gweithio ar waliau’r ardd furiog a’r Ha-ha. Ochr yn ochr â’r gwaith hyn, ac mewn cyd-weithrediad efo’r amgueddfa, roeddem am gyhoeddi rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus.
Fodd bynnag, rydym mewn amseroedd anodd. Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynnu gohirio ein rhaglen o ddigwyddiadau am dri mis, er mwyn cadw ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff mor ddiogel â phosib rhag coronafeirws.
Os bydd popeth yn iawn, y bwriad fydd ail-lawnsio ein rhaglen ddiwedd Gorffennaf ar gyfer gwyliau’r haf, gyda perfformiadau hanes byw yn yr Ardd Furiog yn edrych ar feddyginiaeth canoloesol, a’r defnydd traddodiadol o berlysiau ar gyfer iachâd.
Bydd cyfleoedd gwirfoddoli cynnal a chadw yn y Parc a’r gerddi gyda Piers yn parhau tra ei bod yn ddiogel i wneud hynny a thra bod arweiniad y llywodraeth yn caniatau.
Yn y cyfamser, erys Parc yr Esgob ar agor i bawb.
Newyddion Mis Mawrth 2020
Posted: 18/03/2020 by Admin

Category: Newyddion Diweddaraf