enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG
Mae coeden fawr, hen gyda changhennau eang yn sefyll mewn cae glaswelltog, wedi'i hamgylchynu gan goed gwyrdd eraill o dan awyr las glir ar ddiwrnod heulog. Mae cysgodion o'r goeden yn disgyn ar draws y glaswellt.

Parc yr Esgob i ail-agor i ymwelwyr ar droed ym mis Gorffennaf

Mae coeden fawr, hen gyda changhennau eang yn sefyll mewn cae glaswelltog, wedi'i hamgylchynu gan goed gwyrdd eraill o dan awyr las glir ar ddiwrnod heulog. Mae cysgodion o'r goeden yn disgyn ar draws y glaswellt.

Er gwaethaf y cyfnod clo a chau Parc yr Esgob i’r cyhoedd, mae cynnydd mawr yn cael ei wneud wrth adfer y gerddi hanesyddol hyn yn Abergwili. Ym mis Mai dechreuodd yr adeiladwyr cadwraeth arbenigol David Siggery Cyf. ar y gwaith o drwsio waliau 250 oed yr ardd furiog, lle bu ffrwythau a llysiau yn cael eu tyfu ar un adeg i Esgobion Tyddewi. Mae’r adeiladwyr hefyd yn atgyweirio’r Ha-Ha 300m o hyd, sef ffos a wal isel a adeiladwyd i wahanu gerddi’r Esgob wrth yr anifeiliaid oedd yn pori ar y dolydd tu hwnt. Mae hwn yn nodweddiadol o ardd o’r 19eg ganrif cynnar, a ddyluniwyd fel bod gerddi’r Esgob i’w gweld yn ymestyn yn ddi-dor ar draws Dyffryn Tywi, fel dŵr pwll anfeidredd yn dod yn un gyda’r cefnfor.

Ochr yn ochr â phrosiect Drws i’r Dyffryn, mae gwaith atgyweirio hen dô Plas yr Esgob gan y Cyngor Sir yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda’r contractwyr, TAD Builders Ltd., yn gwneud yn fawr o’r tywydd braf.

Yng ngoleuni cyhoeddiad Cyngor Sir Caerfyrddin ar yr 11eg o Fehefin i ailagor parciau a gerddi Sir Gaerfyrddin, mae ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn gweithio gyda’r cyngor a chontractwyr y safle  i ail-agor Parc yr Esgob, Abergwili i’r cyhoedd mewn modd diogel ar y 3ydd o Orffennaf.

Yn ogystal â chadw at bellterau cymdeithasol ymysg ymwelwyr i’r Parc, mae angen gwneud trefniadau i gadw ein contractwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel. Gyda chynnydd mewn gweithgarwch a symudiadau cerbydau dau dîm o gontractwyr, bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar fynediad cerbydau i’r safle. Ar ôl ailagor, felly, byddwn yn croesawu ymwelwyr ar droed yn unig i ddechrau.

Mae golau haul y bore yn hidlo trwy goed tal ar dirwedd niwlog, gan daflu cysgodion hir dros laswellt. Mae niwl trwchus yn cuddio coed pell a bryniau tonnog o dan awyr las glir.

Newyddion Mis Mawrth 2020

Amseroedd Diddorol

Mae golau haul y bore yn hidlo trwy goed tal ar dirwedd niwlog, gan daflu cysgodion hir dros laswellt. Mae niwl trwchus yn cuddio coed pell a bryniau tonnog o dan awyr las glir.
Golygfa bore gynnar  dros yr ha-ha wedi’i glirio ac ar draws Dyffryn Tywi

 

Rydym wedi cyrraedd cyfnod cyffrous yn adferiad Parc yr Esgob, gyda’r cyntaf o’n contractwyr ar fin cychwyn gweithio ar waliau’r ardd furiog a’r Ha-ha. Ochr yn ochr â’r gwaith hyn, ac mewn cyd-weithrediad efo’r amgueddfa, roeddem am gyhoeddi rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus.

Fodd bynnag, rydym mewn amseroedd anodd. Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynnu  gohirio ein rhaglen o ddigwyddiadau am dri mis, er mwyn cadw ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff mor ddiogel â phosib rhag coronafeirws.

Os bydd popeth yn iawn, y bwriad fydd ail-lawnsio ein rhaglen ddiwedd Gorffennaf ar gyfer gwyliau’r haf, gyda perfformiadau hanes byw yn yr Ardd Furiog  yn edrych ar feddyginiaeth canoloesol, a’r defnydd traddodiadol o berlysiau ar gyfer iachâd.

Bydd cyfleoedd gwirfoddoli cynnal a chadw yn y Parc a’r gerddi gyda Piers yn parhau tra ei bod yn ddiogel i wneud hynny a thra bod arweiniad y llywodraeth yn caniatau.

Yn y cyfamser, erys Parc yr Esgob ar agor i bawb.

Cam II – Hydref 2019

Mae grŵp o goed, rhai â dail gwyrdd trwchus ac un â llawer o ganghennau noeth, yn sefyll yn erbyn awyr las glir.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn awr yn barod i weithredu cam nesaf y gwaith coed ym Mharc yr Esgob. Gan weithio unwaith eto gyda’r coedwyr lleol, Extreme Tree Services, byddwn yn parhau i adfer y parc a’r ardd hon sy’n arwyddocaol yn genedlaethol, yn creu amodau gwell ar gyfer y coed hanesyddol a’r coed sbesimen gwych ar draws y safle; cynorthwyo adfer ein strwythurau rhestredig; darparu cyfleoedd plannu a chynefinoedd newydd; a chynnal y parc yn le diogel a chyffrous i’w ymweld.

O 23 Medi bydd Stuart, Dan a Harry yn clirio coed prysgwydd hunan-hau yn ddetholus ar hyd yr ha-ha, un o’r nodweddion tirweddol mwyaf trawiadol yn y parc. Adeiladwyd y wal gynnal 315 metr o hyd hon ar ddechrau’r 19eg Ganrif i ddarparu golygfeydd di-dor o’r ystâd i Ddyffryn y  Tywi  tu hwnt, golygfeydd sydd wedi’u colli’n llwyr dros nifer o ddegawdau. Ar ôl ei gwblhau bydd y gwaith clirio hwn, a’r gwaith cadwraeth cerrig i’w ddilyn, yn adfer agwedd fawr o gymeriad unigryw’r parc, sydd hefyd yn unigryw i Ddyffryn y  Tywi.

Yn anffodus mae clefyd coed ynn (ash dieback)  yn parhau i ddifetha llanast ar draws yr ardal, ac mae’r holl goed ynn yn y parc wedi cael eu heintio. O ganlyniad, mae’n angenrheidiol i ni gael gwared ohonynt i gynnal amgylchedd diogel i’n ymwelwyr. Gobeithiwn i’r gwaith hwn gael ei wneud ym mis Tachwedd. Mae’n hanfodol bod pob perchennog tir  yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran y clefyd ynn, a’u bod yn cymeryd yr holl fesurau iechyd a diogelwch sy’n angen.

Rydym ni yn yr Ymddiriedolaeth yn gyffrous i adfer y parc, a dod â’i hanes yn fyw a’i gynnal fel lle pleserus i’w ymweld am flynyddoedd i ddod. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster bydd y gwaith coed hwn yn achosi a gofynnwn i chi ddilyn yr arwyddion a chyfarwyddiadau tra bod y  gwaith yn cael ei wneud. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ddarganfod mwy am y prosiect, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rhagor o waith coed ym Mharc yr Esgob – Hydref 2019

Wal gerrig gyda sawl coeden yn tyfu o'r brig, eu gwreiddiau a'u boncyffion wedi'u cydblethu â'r cerrig. Mae mwsogl yn gorchuddio rhannau o'r wal, sy'n dynodi oedran a thwf naturiol. Mae gwyrddni trwchus i'w weld yn y cefndir.

Yn ystod yr hydref, gwelir mwy o waith ar y coed ym Mharc yr Esgob. Yn anffodus, mae’r holl goed ynn yn dioddef o glefyd marwol a rhaid eu dymchwel i wneud y parc yn ddiogel i ymwelwyr. Fodd bynnag, wedi gwaredu’r coed ynn a rhai o’r coed eraill sydd wedi gwreiddio ar hyd yr Ha-ha, byddwn yn adfer y golygfeydd hanesyddol bendigedig dros Ddyffryn Tywi.

Rhagor o wybodaeth

Golygfa o'r awyr o ardal wledig gyda chaeau gwyrdd, cylchfan, tai gwasgaredig, ystâd fawr wedi'i gorchuddio â choed, a thir fferm. Mae ffyrdd yn cysylltu'r rhannau preswyl ac amaethyddol. Delwedd dyddiedig 14 Mai 2019.

Archwiliwch Dyffryn y Tywi

Golygfa o'r awyr o ardal wledig gyda chaeau gwyrdd, cylchfan, tai gwasgaredig, ystâd fawr wedi'i gorchuddio â choed, a thir fferm. Mae ffyrdd yn cysylltu'r rhannau preswyl ac amaethyddol. Delwedd dyddiedig 14 Mai 2019.

Dewch i ddechrau eich archwiliad o Ddyffryn Tywi ym Mharc yr Esgobion. Mae gwirfoddolwr Parc yr Esgob, Nigel Bailey, wedi dylunio a disgrifio cyfres o deithiau cerdded y gellir i gyd eu cychwyn ym Mharc yr Esgob a’r Amgueddfa. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys map, esboniad o’r llwybr a mewnwelediadau diddorol i’r ardal rydych chi’n cerdded drwyddi ar y wefan yma.

Y cyntaf o’r teithiau cerdded hunan-dywys  yw’r ‘Daith Gerdded Afon Gwili a’r Rheilffordd’ sy’n 3¼ milltir o hyd.

Mae’r daith hon yn eich tywys trwy dirwedd o leoedd a chymeriadau hanesyddol sy’n mynd yn ôl mil o flynyddoedd; o Rhain “Y Gwyddel” a Brwydr Abergwili i waith plât tun Caerfyrddin o’r 18fed ganrif a safle gwersyll carcharol yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae grŵp o bobl yn sefyll mewn ardal laswelltog, goediog, yn ffurfio hanner cylch o amgylch darn bach o bridd newydd ei gloddio. Mae'n ymddangos bod un person yn siarad, tra bod eraill yn gwrando ac yn dal papurau. Mae'r tywydd yn heulog.

Llongyfarchiadau i Michael Norman MBE!

Mae grŵp o bobl yn sefyll mewn ardal laswelltog, goediog, yn ffurfio hanner cylch o amgylch darn bach o bridd newydd ei gloddio. Mae'n ymddangos bod un person yn siarad, tra bod eraill yn gwrando ac yn dal papurau. Mae'r tywydd yn heulog.
Plannu llwyfen wen Ewropeaidd ym Mharc yr Esgob i ddathlu cyfraniad Michael Norman i’r safle. 

Cafodd Michael Norman, un o’r ymddiriedolwyr a sylfaenodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i dreftadaeth.

Roedd Michael yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru 30 mlynedd yn ôl, ac yn wirfoddolwr,  cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr gyda  Choedwig Dyffryn Penllergaer i fyny at dair blynedd yn ôl.

Gweithiodd Michael yn ddiflino o 2014 i sefydlu a chodi arian i brosiect Drws i’r Dyffryn, ac heb ei ymdrechion, ni fyddem yn y broses o adfer Parc yr Esgob nawr.

Beth bydd yn digwydd?

Dros y ddwy flynedd nesaf

Mae’r gwaith prosiect cychwynnol yn cynnwys rheoli ein coed. Yn ogystal ag adfer cynllun hanesyddol y parc, bydd hyn yn gwella iechyd y coed sbesimen, yn ein galluogi i blannu mwy o goed a llwyni ac yn cynyddu gwerth bywyd gwyllt y parc ac yn apelio at ymwelwyr.

 

 

Gan ddefnyddio technegau a deunyddiau traddodiadol, y cyntaf o adeiladau y parc sydd i’w adfer yw’r Porthdy o’r 19eg ganrif gynnar. Bydd y gwaith i adfer gweddill yr adeiladau allanol yn dilyn yn hwyr yn 2019 hyd at ddechrau 2021 gan greu canolfan addysg a dehongli a chaffi. Bydd cadwraeth nodweddion pwysig eraill ar draws y parc, fel yr ardd furiog, yr ha-ha, a llwybrau yn cael eu cynnal ochr yn ochr gyda’r gwaith adeiladu a bydd yn integreiddio cydnabyddiaeth, cofnodi, diogelu a rheoli bywyd gwyllt y parc yn well.

Y nod yw bod Parc yr Esgob yn parhau’n lle sy’n dod â phleser mawr i’r gymuned leol ac i ymwelwyr fel ei gilydd a’i fod yn dod yn ganolfan ddysgu a gweithgareddau bywiog i bob oedran a gallu.

Mae nifer o bobl yn gweithio yn yr awyr agored mewn ardal laswelltog, llawn coed. Mae dau unigolyn yn atgyweirio neu'n adeiladu wal frics isel yn y blaendir, gyda berfa gerllaw. Mae eraill yn sefyll ac yn gweithio yn y cefndir.

Cynhyrchwyr ffilm ym Mharc yr Esgob

Mae nifer o bobl yn gweithio yn yr awyr agored mewn ardal laswelltog, llawn coed. Mae dau unigolyn yn atgyweirio neu'n adeiladu wal frics isel yn y blaendir, gyda berfa gerllaw. Mae eraill yn sefyll ac yn gweithio yn y cefndir.

Mae Daisy White ac Ioan Ings o Akron Productions yn wneuthurwyr ffilm ifanc a thalentog o’r ardal  lleol. Fe wnaethwyd eu ffilm gyntaf gyda’i gilydd yn yr ardd gegin waliog ym Mharc yr Esgob, yn recordio’r cloddiadau archeolegol yn ôl ym mis Mawrth 2017.

Mae’r parc yn dal i fod mor ffotogenig ag erioed ac yn hydref 2018 dewisodd Meg Phillips, myfyriwr ail flwyddyn  ffilm a diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Parc yr Esgob i gynrychioli “lle hapus” yn ei ffilm fer “Ear Buds”.

Cam I – Chwefror 2019

Golygfa yn edrych i fyny at ganopi coed gyda changhennau trwchus, deiliog ac awyr rhannol gymylog i'w gweld trwy'r bylchau. Mae'r olygfa wedi'i fframio gan ddail gwyrdd tywyll a changhennau troellog.

Fel rhan o’n cynllun tair blynedd i adfer y Parc, mae angen i’r Ymddiriedolaeth ymgymryd â gwaith sylweddol ar y coed a’r coetiroedd. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar adfywio’r arboretum a’r coedlannau, gan glirio coed afiach, y rhai sy’n gwanio strwythurau rhestredig (yn enwedig yr ha-ha) ynghyd â rhywogaethau ymledol megis llawryf a rhosbren sydd wedi effeithio’n sylweddol ar iechyd y coedlannau. Bydd hyn yn gwella amgylchiadau yn y Parc o ran mynediad a mwynhad cyhoeddus, bioamrywiaeth a iechyd a diogelwch, gan greu cyfle i blannu coed a llwyni newydd ledled y safle.

Bwriedir cyflawni y rhan fwyaf o’r gwaith mewn dwy ran fel rhan o gytundeb allanol:

Cyfnod 1:

  • i gychwyn yn gynnar yn 2019 a pharhau tan 28 Chwefror 2019, er mwyn gorffen cyn i’r tymor nythu adar gychwyn;
  • bydd y gwaith yma yn canolbwyntio ar goed o fewn ac o amgylch y Maes Parcio; yr ardal i’r gorllewin o’r adeiladau allanol lawr y dramwyfa at fynedfa’r amgueddfa; yr ardal yn union o gwmpas yr amgueddfa; tu allan i fur dwyreiniol yr Ardd Furiog ac oddi mewn i’r Ardd ei hun.

Cyfnod 2:

  • rhwng Medi’r 1af 2019 a Medi 29 2020;
  • bydd y cyfnod yma o waith yn canolbwyntio ar goed yn y Gerddi Pleser a’r coetiroedd, yn enwedig ar hyd yr ha-ha.

Bydd yr Ymddiriedolaeth ei hun yn ymgymryd â gweddill y gwaith, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddoli eraill. Ni fydd y cyfnod o waith yma yn digwydd o reidrwydd o fewn yr amserlen uchod.

Golyga hyn y bydd angen ynysu ardaloedd yn y Parc ar adegau i sicrhau diolgelwch y cyhoedd. Fodd bynnag, bydd yr Ymddiriedolaeth yn anelu at wneud y Parc mor hygyrch â phosib yn ystod unrhyw gyfnodau o waith, felly pan fydd angen cau llwybr fe wnawn ymdrech i gyfeirio ymwelwyr at lwybr arall os yn bosib. Yn ystod cyfnodau pan na fydd hyn yn ymarferol, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ceisio ail-agor llwybrau cyn gynted a phosib.

Gofynna’r Ymddiriedolaeth yn garedig am eich amynedd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n hanfodol bwysig, er eich diolgelwch eich hun, y dilynwch unrhyw arwyddion a chyfyngiadau a fydd yn weithredol yn ystod y cyfnodau gwaith. Mae hyn yn cynnwys sicrhau na fydd cŵn yn croesi unrhyw atalfeydd.

Er y caiff y gwaith hyn effaith sylweddol ar olwg cyfredol y Parc, y bwriad yw gwella’r gerddi at ddefnydd pawb, gan gynnwys bywyd gwyllt. Os hoffech wybod mwy am y gwaith, mae croeso i chi gysylltu â Phen Garddwr yr Ymddiriedolaeth, Piers Lunt drwy e-bost:

pierslunt@tywigateway.org.uk

Gallwch hefyd ymweld â Piers a Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, Louise Austin, ar ddydd Llun 17 Rhagfyr yn Neuadd Eglwys Abergwili rhwng 5 a 7yh, i drafod y gwaith a’r cynllun yn fwy cyffredinol.

Gwaith Coed ym Mharc yr Esgob

Mae coeden â changhennau'n llawn dail yr hydref melyn ac euraidd wedi'i goleuo gan olau'r haul, gyda rhai ardaloedd mewn cysgod a chefndir tywyll o goed.

Nawr fod Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob yn rheoli Parc yr Esgob yn weithredol, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gofalu am iechyd ein coed a choetiroedd.

Golyga hyn fod angen i ni wneud dipyn o waith arnynt ledled y Parc, i wella’r safle ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac i roi cyfle i ni blannu llawer mwy.

I ddarganfod mwy, dewch i’n gweld yn Neuadd Eglwys Abergwili ar Ragfyr 17eg rhwng 5 a 7yh.

Ceir mwy o wybodaeth yma,

neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol  â’n Pen Garddwr Piers Lunt drwy e-bost:

pierslunt@tywigateway.org.uk