enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Beth i’w Weld Nawr: Chwefror

Mae blodyn melyn bach gyda phetalau cul yn tyfu ymhlith dail gwyrdd, siâp calon ar y ddaear, wedi'u goleuo'n rhannol gan olau'r haul. Gyda’r gwanwyn ar ei ffordd, a’r dyddiau’n ymestyn, mae’n newyddion da i ymwelwyr a garddwyr fel ei gilydd. Cofiwch edrych allan am friallu yn y parc fis yma, sy’n dechrau blodeuo mewn gwahanol fannau, ynghyd â Llygad Ebrill bach siriol, sy’n arddangos llawer o ddail newydd ac ambell flodyn  – ar ddyddiau disglair yn unig! Gwelir dail cennin Pedr ac eirlysiau yn gwthio trwy’r carped o ddail o gwmpas y parc – mae ymyl yr ‘haha’ (y bwlch rhwng y parc a’r Waun Fawr) yn lle da i weld eirlysiau, ond gwyliwch y cwymp serth i’r ffos! Mae cynffonnau wyn bach i’w gweld ar y coed cyll bellach, a gallwch yn hawdd golli hanner awr yn gwylio’r hwyaid gwyllt ar Bwll yr Esgob; cyfle gwych i synfyfyrio os oes gennych amser!

Ar hyn o bryd, gallwn edmygu sawl codiad a machlud haul bendigedig – maen’t yn arbennig dros y Waun Fawr, gyda’r haul yn amlinellu canghennau noeth y coed aeddfed. Rydym wedi bod yn brysur hefyd – rydych yn siwr o weld Piers yn y parc yn defnyddio llif gadwyn i brysgoedio a chlirio llawer o goed llawrgeirios, i wella’r amgylchedd ar gyfer coed cynhenid a rhywogaethau fflora llawr.

 

Mae coeden grom, ddi-ddail yn sefyll mewn gardd gaerog gyda gwelyau llysiau a phlanhigion gwyrdd. Mae'r awyr yn gymylog, ac mae twll eglwys i'w weld yn y cefndir y tu hwnt i'r coed.

Creu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol

Logos Cronfa Dreftadaeth Cymru gyda draig, a Pharc yr Esgob gydag eiconau gwyrdd yn cynrychioli natur a bywyd gwyllt.

Mae llwybr graean troellog yn troi heibio coed a boncyffion coed mewn cae gwyrdd heulog, gyda choeden unig yn y pellter a bryniau coediog o dan awyr rhannol gymylog.
Hawlfraint Caryl Thomas 2020 – Y Ddol Enfawr yn Mharc yr Esgobion, Abergwili

Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi derbyn grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ er mwyn creu dwy ardd newydd ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, fel rhan o adferiad a chadwraeth helaethach y safle. Mae’r parc yn amgylchynu hen balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin,  gyda’r adeiladau allanol yn cael eu haddasu i greu caffi newydd a chanolfan dysgu a dehongli. Mi fydd y wobr yn galluogi pryniant planhigion o amrywogaethau hanesyddol er mwyn creu arddangosfeydd plannu deniadol o fudd i fywyd gwyllt, yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgu a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr a phlant.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Natur yw ein ffurf hynaf o dreftadaeth ac y mae’n bwysicach nag erioed i edrych ar ôl natur ac i helpu pobl ddeall ei bwysigrwydd. Mae natur hefyd yn gallu hybu ein hwyliau; gostwng straen; helpu ni i ymlacio; gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol a dylai fod ar gael i bawb.

Mae ariannu natur a thirwedd yn un o flaenoriaethau ariannu strategol allweddol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac yr ydym yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i roi’r grant ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ i Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn fel y gall pobl yr ardal ddysgu mwy am, ac elwa, o’i threftadaeth naturiol.”

Bydd y fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau a ddefnyddiwyd mewn meddyginiaeth a choginio yng nghanol yr 19eg ganrif. Cynlluniwyd yr ardd gyda chyfuniad o blanhigion cynhenid ac addurnol a fydd yn darparu neithdar a phaill i bryfed, gan adlewyrchu amcanion cynaladwy’r prosiect a hanes cyfoethog y safle.

Saif yr ardd goedwigol newydd wrth ymyl prif goetir Parc Yr Esgob, ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ôl pan dorrwyd ffawydden aeddfed lawr a oedd yn ansefydlog oherwydd ffwng. Mae’r boncyff nawr yn creu ardal agored, gysgodol mewn chwaraefa naturiol, gyda golygfa at orlifdir y waun, lle bydd ymwelwyr yn gallu eistedd i fwynhau’r planiadau gyda Dyffryn Tywi fel cefndir, a mwynhau’r buddiannau llesiant  o fod mewn coetir. Bydd llwyni addurnol newydd, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn ynghyd â chyflwyniad bocsys adar ac ystlumod yn ychwanegu at y fflora a ffawna ac yn elwa bywyd gwyllt y goedlan.

Dywedodd Louise Austin, Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant yma oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, a fydd yn ein galluogi i greu gardd a choetir newydd ddeniadol newydd, gan ddefnyddio planhigion o amrywogaethau hanesyddol a fydd yn cynnal pryfed peillio a bywyd gwyllt eraill. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau a deunyddiau addysgiadol ar gyfer ymwelwyr, plant a’r gymuned leol.”

Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn awyddus i sicrhau fod y parc yn hygyrch i bawb er eu mwynhad. Bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc i weithio gyda Phrif Arddwr yr Ymddiriedolaeth, Piers Lunt, i ddysgu sut i baratoi, plannu a gofalu am y gerddi, gan gynnwys plannu coed afalau traddodiadol fel Tinyrwydd ac Enlli.

Mae sefydlu’r gerddi newydd yn rhan o raglen helaethach o adnewyddu a chyfoethogi Parc Yr Esgob a reolir gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, i warchod ac adfer y parc a’r gerddi yn ôl i gyfnod yr ail-ddyluniad mawr yn yr 1840’au. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr ardd gegin furiog ddeniadol yn gynhyrchiol unwaith eto,  a gwella mynediad cyhoeddus i’r Waun Fawr gyfagos, a fydd yn cael ei rheoli i elwa cynefin y gorlifdir prin yma. Bydd y prosiect hefyd yn gwarchod Pwll Yr Esgob, ystumllyn sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac adnewyddu adeiladau allanol Hen Balas yr Esgob i’w defnyddio fel canolfan addysgu a dehongli, ynghyd â chaffi, a fydd yn agor yn Hydref 2021.

 

 

Dau aelod newydd i’r tîm

Mae pump o oedolion yn sefyll wedi'u gwasgaru ar wahân mewn gardd ffrwythlon gyda phlanhigion gwyrdd, coed a wal frics yn y cefndir. Mae un person yn gwisgo cot felyn llachar ac esgidiau glaw gwyrdd; mae'n ymddangos bod y grŵp yn yr awyr agored ar ddiwrnod heulog.
Caroline a Ffiona gyda Piers a chydweithwyr o Amgueddfa Caerfyrddin ar daith o amgylch yr Ardd Furiog

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn gyhoeddi ein bod bellach wedi penodi Swyddog Ymgysylltu a Dysgu Cymunedol. Yn wir, rydym wedi apwyntio dau aelod newydd gwych i’n tîm a fydd yn rhannu’r swydd. Dechreuodd Ffiona Jones ym mis Medi ac fe fydd Caroline Welch yn ymuno â ni ym mis Tachwedd.

Mae Ffiona Jones yn dod o gefndir amaethyddol, gan astudio amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth yn yr 1980au hwyr. Yn 2008, fe ddechreuodd astudio ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, lle enillodd ei BA Addysg Gynradd gyda SAC. Mae wedi treulio’r blynyddoedd dilynol yn gweithio yn bennaf fel athrawes gyflenwi ar draws Sir Gâr, ac ar hyn o bryd, mae hefyd yn astudio ar gyfer MA Hanes Lleol ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Wedi ei magu ar fferm laeth yn ardal Cydweli, mae Ffiona yn ffermio ym Mhontargothi, Dyffryn Tywi gyda’i gwr a’i phlant mewn oed, a mae ganddynt fuches fach o wartheg Jersey pur, sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae’r fferm wedi bod yn y teulu ers dros gant ag ugain o flynyddoedd.

Mae Ffiona’n rhugl yn y Gymraeg ac wedi bod yn gysylltiedig â nifer o gymdeithasau a mudiadau’r ardal ers symud yno yn y 1990au, gan gynnwys Clybiau Ffermwyr Ifanc, sioeau amaethyddol a chymdeithasau bridiau gwartheg, yr Urdd, eglwys blwyf Llanegwad, ysgol Nantgaredig ac ysgol Bro Myrddin, i enwi ond rhai.

Gobaith Ffiona yw y bydd ei rôl yn ei galluogi i gyd-gysylltu popeth y mae’n dwli arno yn Nyffryn Tywi – yr ecoleg, yr hanes, y dreftadaeth a’r diwylliant, ac wrth gwrs, y bobl.

Rôl newydd ym Mharc yr Esgob – Swyddog Ymgysylltu a Dysgu Cymunedol

Mae nifer o blant ac oedolyn yn chwarae ar gae glaswelltog wedi'i amgylchynu gan goed. Mae rhai plant yn plygu i lawr, tra bod eraill yn sefyll neu'n cerdded. Mae'r olygfa'n llachar ac yn awyr agored, gan awgrymu diwrnod gwanwyn neu haf.

Os ydych yn angerddol dros dreftadaeth a’r amgylchedd, ac os yw’r syniad o ddatblygu rhaglen newydd o ymgysylltu a dysgu cymunedol penodol i’r safle yn eich cyffroi – yna mae hwn yn gyfle unigryw i arwain tîm o wirfoddolwyr ac eraill i greu profiad dysgu gwirioneddol arbennig, difyr, boddhaus a diogel i ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Bydd y swydd ddwy flynedd hon yn annog ac yn cynyddu defnyddwyr Parc yr Esgob o bob oed i fwynhau a dysgu. Bydd yn dod â’r gymuned, y parc, hen Balas yr Esgob ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a’i chasgliadau at ei gilydd ac yn creu cysylltiadau rhyngddynt.

Cliciwch YMA am rhagor o wybodaeth

neu cysylltwch â Louise Austin – Rheolwr Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – louiseaustin@tywigateway.org.uk.

Dyddiad cau ymgeisio yw hanner dydd, dydd Gwener 21 Awst.

 

Mae grŵp o bobl, gan gynnwys un mewn cadair olwyn, yn ymgynnull yn yr awyr agored ger coeden fawr ac adeilad hanesyddol. Mae rhai yn eistedd ar fainc, tra bod eraill yn sefyll, yn gwrando ar fenyw yn siarad. Mae'n ddiwrnod heulog.

Mae grŵp o blant ifanc mewn siacedi a bwtiau lliwgar yn sefyll gydag oedolyn ar lwybr coetir wedi'i orchuddio â dail, wedi'i amgylchynu gan lwyni a choed gwyrdd. Mae'n ymddangos bod y plant yn archwilio neu'n chwarae yn yr awyr agored.

Cefnogaeth i’r Prosiect gan Gymuned Abergwili

Mae grŵp o blant ifanc mewn siacedi a bwtiau lliwgar yn sefyll gydag oedolyn ar lwybr coetir wedi'i orchuddio â dail, wedi'i amgylchynu gan lwyni a choed gwyrdd. Mae'n ymddangos bod y plant yn archwilio neu'n chwarae yn yr awyr agored.

Mae’n bleser gan yr Ymddiriedolaeth gyhoeddi cefnogaeth bellach gan Gyngor Cymuned Abergwili tuag at adferiad Parc yr Esgob.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi cyfrannu rhodd ychwanegol  o £2,000 tuag at greu swydd Swyddog Cyswllt a Dysgu Cymunedol. Gan gychwyn fis Medi 2020, bydd deiliad y swydd yn annog a datblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr y parc ledled Sir Gâr. Bydd hefyd yn gweithio gyda grwpiau, clybiau, cymdeithasau a grwpiau diddordeb, yn ogystal â cholegau ac ysgolion i ddatblygu cyfleoedd dysgu a chreu gweithgareddau i archwilio’r hyn sy’n gwneud Parc yr Esgob, Hen Balas yr Esgob a chasgliadau’r Amgueddfa mor arbennig.

Meddai Betsan Caldwell, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth “Rydym wrth ein bodd fod y Cyngor Cymuned yn parhau i gefnogi ein gwaith o adfer a gwarchod y safle arbennig hwn. Bydd y prosiect, a gwblheir fis Medi 2021 gobeithio, yn creu caffi a gofod dysgu er mwyn annog mwy o bobol i ddod i archwilio’r hanes, ecoleg a garddwriaeth rhyfeddol yma ym Mharc yr Esgob.”

“Mae amryw o aelodau cymuned Abergwili eisoes yn cymeryd rhan gweithredol  yn adferiad y parc fel Ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr gan helpu i ail-greu ei ogoniant blaenorol, a rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth yn ymuno â nhw.”

Mae coeden fawr, hen gyda changhennau eang yn sefyll mewn cae glaswelltog, wedi'i hamgylchynu gan goed gwyrdd eraill o dan awyr las glir ar ddiwrnod heulog. Mae cysgodion o'r goeden yn disgyn ar draws y glaswellt.

Parc yr Esgob i ail-agor i ymwelwyr ar droed ym mis Gorffennaf

Mae coeden fawr, hen gyda changhennau eang yn sefyll mewn cae glaswelltog, wedi'i hamgylchynu gan goed gwyrdd eraill o dan awyr las glir ar ddiwrnod heulog. Mae cysgodion o'r goeden yn disgyn ar draws y glaswellt.

Er gwaethaf y cyfnod clo a chau Parc yr Esgob i’r cyhoedd, mae cynnydd mawr yn cael ei wneud wrth adfer y gerddi hanesyddol hyn yn Abergwili. Ym mis Mai dechreuodd yr adeiladwyr cadwraeth arbenigol David Siggery Cyf. ar y gwaith o drwsio waliau 250 oed yr ardd furiog, lle bu ffrwythau a llysiau yn cael eu tyfu ar un adeg i Esgobion Tyddewi. Mae’r adeiladwyr hefyd yn atgyweirio’r Ha-Ha 300m o hyd, sef ffos a wal isel a adeiladwyd i wahanu gerddi’r Esgob wrth yr anifeiliaid oedd yn pori ar y dolydd tu hwnt. Mae hwn yn nodweddiadol o ardd o’r 19eg ganrif cynnar, a ddyluniwyd fel bod gerddi’r Esgob i’w gweld yn ymestyn yn ddi-dor ar draws Dyffryn Tywi, fel dŵr pwll anfeidredd yn dod yn un gyda’r cefnfor.

Ochr yn ochr â phrosiect Drws i’r Dyffryn, mae gwaith atgyweirio hen dô Plas yr Esgob gan y Cyngor Sir yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda’r contractwyr, TAD Builders Ltd., yn gwneud yn fawr o’r tywydd braf.

Yng ngoleuni cyhoeddiad Cyngor Sir Caerfyrddin ar yr 11eg o Fehefin i ailagor parciau a gerddi Sir Gaerfyrddin, mae ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn gweithio gyda’r cyngor a chontractwyr y safle  i ail-agor Parc yr Esgob, Abergwili i’r cyhoedd mewn modd diogel ar y 3ydd o Orffennaf.

Yn ogystal â chadw at bellterau cymdeithasol ymysg ymwelwyr i’r Parc, mae angen gwneud trefniadau i gadw ein contractwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel. Gyda chynnydd mewn gweithgarwch a symudiadau cerbydau dau dîm o gontractwyr, bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar fynediad cerbydau i’r safle. Ar ôl ailagor, felly, byddwn yn croesawu ymwelwyr ar droed yn unig i ddechrau.

Mae golau haul y bore yn hidlo trwy goed tal ar dirwedd niwlog, gan daflu cysgodion hir dros laswellt. Mae niwl trwchus yn cuddio coed pell a bryniau tonnog o dan awyr las glir.

Newyddion Mis Mawrth 2020

Amseroedd Diddorol

Mae golau haul y bore yn hidlo trwy goed tal ar dirwedd niwlog, gan daflu cysgodion hir dros laswellt. Mae niwl trwchus yn cuddio coed pell a bryniau tonnog o dan awyr las glir.
Golygfa bore gynnar  dros yr ha-ha wedi’i glirio ac ar draws Dyffryn Tywi

 

Rydym wedi cyrraedd cyfnod cyffrous yn adferiad Parc yr Esgob, gyda’r cyntaf o’n contractwyr ar fin cychwyn gweithio ar waliau’r ardd furiog a’r Ha-ha. Ochr yn ochr â’r gwaith hyn, ac mewn cyd-weithrediad efo’r amgueddfa, roeddem am gyhoeddi rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus.

Fodd bynnag, rydym mewn amseroedd anodd. Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynnu  gohirio ein rhaglen o ddigwyddiadau am dri mis, er mwyn cadw ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff mor ddiogel â phosib rhag coronafeirws.

Os bydd popeth yn iawn, y bwriad fydd ail-lawnsio ein rhaglen ddiwedd Gorffennaf ar gyfer gwyliau’r haf, gyda perfformiadau hanes byw yn yr Ardd Furiog  yn edrych ar feddyginiaeth canoloesol, a’r defnydd traddodiadol o berlysiau ar gyfer iachâd.

Bydd cyfleoedd gwirfoddoli cynnal a chadw yn y Parc a’r gerddi gyda Piers yn parhau tra ei bod yn ddiogel i wneud hynny a thra bod arweiniad y llywodraeth yn caniatau.

Yn y cyfamser, erys Parc yr Esgob ar agor i bawb.

Cam II – Hydref 2019

Mae grŵp o goed, rhai â dail gwyrdd trwchus ac un â llawer o ganghennau noeth, yn sefyll yn erbyn awyr las glir.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn awr yn barod i weithredu cam nesaf y gwaith coed ym Mharc yr Esgob. Gan weithio unwaith eto gyda’r coedwyr lleol, Extreme Tree Services, byddwn yn parhau i adfer y parc a’r ardd hon sy’n arwyddocaol yn genedlaethol, yn creu amodau gwell ar gyfer y coed hanesyddol a’r coed sbesimen gwych ar draws y safle; cynorthwyo adfer ein strwythurau rhestredig; darparu cyfleoedd plannu a chynefinoedd newydd; a chynnal y parc yn le diogel a chyffrous i’w ymweld.

O 23 Medi bydd Stuart, Dan a Harry yn clirio coed prysgwydd hunan-hau yn ddetholus ar hyd yr ha-ha, un o’r nodweddion tirweddol mwyaf trawiadol yn y parc. Adeiladwyd y wal gynnal 315 metr o hyd hon ar ddechrau’r 19eg Ganrif i ddarparu golygfeydd di-dor o’r ystâd i Ddyffryn y  Tywi  tu hwnt, golygfeydd sydd wedi’u colli’n llwyr dros nifer o ddegawdau. Ar ôl ei gwblhau bydd y gwaith clirio hwn, a’r gwaith cadwraeth cerrig i’w ddilyn, yn adfer agwedd fawr o gymeriad unigryw’r parc, sydd hefyd yn unigryw i Ddyffryn y  Tywi.

Yn anffodus mae clefyd coed ynn (ash dieback)  yn parhau i ddifetha llanast ar draws yr ardal, ac mae’r holl goed ynn yn y parc wedi cael eu heintio. O ganlyniad, mae’n angenrheidiol i ni gael gwared ohonynt i gynnal amgylchedd diogel i’n ymwelwyr. Gobeithiwn i’r gwaith hwn gael ei wneud ym mis Tachwedd. Mae’n hanfodol bod pob perchennog tir  yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran y clefyd ynn, a’u bod yn cymeryd yr holl fesurau iechyd a diogelwch sy’n angen.

Rydym ni yn yr Ymddiriedolaeth yn gyffrous i adfer y parc, a dod â’i hanes yn fyw a’i gynnal fel lle pleserus i’w ymweld am flynyddoedd i ddod. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster bydd y gwaith coed hwn yn achosi a gofynnwn i chi ddilyn yr arwyddion a chyfarwyddiadau tra bod y  gwaith yn cael ei wneud. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ddarganfod mwy am y prosiect, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rhagor o waith coed ym Mharc yr Esgob – Hydref 2019

Wal gerrig gyda sawl coeden yn tyfu o'r brig, eu gwreiddiau a'u boncyffion wedi'u cydblethu â'r cerrig. Mae mwsogl yn gorchuddio rhannau o'r wal, sy'n dynodi oedran a thwf naturiol. Mae gwyrddni trwchus i'w weld yn y cefndir.

Yn ystod yr hydref, gwelir mwy o waith ar y coed ym Mharc yr Esgob. Yn anffodus, mae’r holl goed ynn yn dioddef o glefyd marwol a rhaid eu dymchwel i wneud y parc yn ddiogel i ymwelwyr. Fodd bynnag, wedi gwaredu’r coed ynn a rhai o’r coed eraill sydd wedi gwreiddio ar hyd yr Ha-ha, byddwn yn adfer y golygfeydd hanesyddol bendigedig dros Ddyffryn Tywi.

Rhagor o wybodaeth

Golygfa o'r awyr o ardal wledig gyda chaeau gwyrdd, cylchfan, tai gwasgaredig, ystâd fawr wedi'i gorchuddio â choed, a thir fferm. Mae ffyrdd yn cysylltu'r rhannau preswyl ac amaethyddol. Delwedd dyddiedig 14 Mai 2019.

Archwiliwch Dyffryn y Tywi

Golygfa o'r awyr o ardal wledig gyda chaeau gwyrdd, cylchfan, tai gwasgaredig, ystâd fawr wedi'i gorchuddio â choed, a thir fferm. Mae ffyrdd yn cysylltu'r rhannau preswyl ac amaethyddol. Delwedd dyddiedig 14 Mai 2019.

Dewch i ddechrau eich archwiliad o Ddyffryn Tywi ym Mharc yr Esgobion. Mae gwirfoddolwr Parc yr Esgob, Nigel Bailey, wedi dylunio a disgrifio cyfres o deithiau cerdded y gellir i gyd eu cychwyn ym Mharc yr Esgob a’r Amgueddfa. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys map, esboniad o’r llwybr a mewnwelediadau diddorol i’r ardal rydych chi’n cerdded drwyddi ar y wefan yma.

Y cyntaf o’r teithiau cerdded hunan-dywys  yw’r ‘Daith Gerdded Afon Gwili a’r Rheilffordd’ sy’n 3¼ milltir o hyd.

Mae’r daith hon yn eich tywys trwy dirwedd o leoedd a chymeriadau hanesyddol sy’n mynd yn ôl mil o flynyddoedd; o Rhain “Y Gwyddel” a Brwydr Abergwili i waith plât tun Caerfyrddin o’r 18fed ganrif a safle gwersyll carcharol yr Ail Ryfel Byd.