enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG
Mae person mewn crys siec a menig yn penlinio ar y ddaear, yn plannu planhigion ifanc mewn gardd. Mae potiau planhigion bach wedi'u trefnu o'u cwmpas, ac mae coed â dail prin yn y cefndir.

Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gefnogwyr! Mae wedi bod yn flwyddyn drawsnewidiol i Barc yr Esgob….

Rydym bellach wedi plannu mwy na 4,000 o flodau, llwyni, coed a bylbiau newydd, wedi gosod 5 mainc bicnic, 20 bocs adar, 10 bocs ystlum ynghyd ac adfer 700 metr o lwybrau hanesyddol y parc a 12 o feinciau parc newydd. Ni allem fod gwneud hyn heb ein gwirfoddolwyr gwych (fel Tad yn y llun yma). Gyda’ch cefnogaeth chi, rydym yn creu dyfodol cynaladwy ar gyfer Parc yr Esgob. Diolch i bob un ohonoch.

Rhisgl coeden gyda cherfiadau amrywiol, gan gynnwys y rhif amlwg 1862 wedi'i ysgythru i'r wyneb, wedi'i amgylchynu gan lythrennau, rhifau a marciau llai amlwg eraill.

Gwylio Bywyd Gwyllt: Rhagfyr 2021

Louise, Ffiona a ? ar 20/12/21

Roedd yn ddiwrnod oer, mwll ar ddiwedd Rhagfyr. Sylwom ar fylbiau’n dechrau torri drwy’r pridd yng Ngardd Jenkinson – arwydd da fod y Gwanwyn ar droed.

 Egin gwyrdd yn dod allan o bridd creigiog, llaith, wedi'i amgylchynu gan gerrig bach a darnau o fwsogl. Mae'r planhigion ifanc yn dynodi twf newydd mewn lleoliad awyr agored.

Heddiw roedd rhosyn dringo newydd gael ei blannu yn erbyn y pergola – mae’r gwaith plannu yng Ngardd Jenkinson bron yn gyflawn!

Sylwon ni ar ambell blisgyn cnau cyll islaw’r coed Bocs – ai cnofilod oedd yn gyfrifol, neu wiwerod? A boncyff coeden ddiddorol oedd yn pydru.

Mae pob deilen wedi disgyn oddi ar y coed collddail – ond fe sylwon ni ar ambell flaguryn ar y coed ffawydd.

Canghennau coed noeth yn y blaendir, gyda golygfa o barc y tu ôl yn cynnwys llwybr, mainc bren, glaswellt gwyrdd, a sbwriel dail. Mae rhai rhwystrau adeiladu a choed yn y cefndir o dan awyr gymylog.

Fe welson ni ambell ffwng.

Mae madarch gwyn bach yn tyfu ymhlith dail brown llaith a phridd ar lawr coedwig, gyda rhai dail eiddew gwyrdd i'w gweld yn y cefndir.Mae clwstwr o fadarch golau yn tyfu ymhlith dail brown sydd wedi cwympo ac eiddew gwyrdd ar lawr coedwig, gyda brigau a changhennau wedi'u gwasgaru ar eu pennau.

… a rhai tyllau cnofilod a phridd y wadd.

Sylwon ni ar gerfiadau ar y goeden ffawydd hon yn dyddio’n ôl i 1862!

Rhisgl coeden gyda cherfiadau amrywiol, gan gynnwys y rhif amlwg 1862 wedi'i ysgythru i'r wyneb, wedi'i amgylchynu gan lythrennau, rhifau a marciau llai amlwg eraill.

A phlanhigion yn eu blodau – llysiau’r gwaed, dant y llew, rhosod.

Llain o blanhigion deiliog gwyrdd gyda sawl blodyn porffor golau yn blodeuo ymhlith y dail. Mae gan y blodau bum petal yr un ac mae'r planhigion yn gorchuddio'r ddaear yn drwchus.

Mae un blodyn dant y llew melyn yn tyfu ymhlith planhigion gwyrdd a dail brown wedi cwympo ar y ddaear.

Ar ein taith gerdded fe welson ni: fronfraith, brych y coed, robin, dryw, mwyeilch, titwod tomos las, alarch dof, hwyaid gwylltion, telor y cnau a sgrech y coed.

Mae person sy'n gwisgo siaced las, het ffwr, menig a sach gefn yn sefyll yn yr awyr agored yn yr hydref, yn dal darn o bapur a beiro, wedi'i amgylchynu gan ddail wedi cwympo a choeden â dail oren a melyn.

Tach 2021: Gwylio Bywyd Gwyllt am y tro cyntaf

Mae blodyn melyn bach yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd a llafnau o laswellt, gyda rhai dail brown wedi cwympo i'w gweld yn y cefndir.
Cartheig yn blodeuo’n ddewr ym mis Tachwedd – ar gyrion yr Ardd Furiog.

Heddiw, fe ddechreuon ni ar ein prosiect Gwylio Bywyd Gwyllt Misol cyntaf – gan sylwi ar y fflora a’r ffawna a nodi’r newidiadau tymhorol yn y Parc. Roedd yn ddiwrnod llwyd a chymylog – yn annhebyg i’r diwrnod heulog a gafwyd ddoe – a chafwyd llwydrew dros nos. Dechreuodd Suzie, un o’n gwirfoddolwyr gardd, a minnau yng Ngardd Jenkinson gan nodi’r blodau cyntaf oll i ni eu gweld – chwerwlys torddail, blodau-pigwrn blewog, teim a fflocs (yn llochesi y tu ôl i’r fainc), un llygad y dydd gwyn yn y borfa ac fe sylwon ni ar dyfiant diweddar y cloddiau bocs. Roedd yr ardal hon – a blannwyd o’r newydd ym mis Mawrth 2021 – yn gyforiog o beillwyr dros yr haf, a bydd hi’n hynod gyffrous i weld y lle’n dod yn fyw unwaith eto yn ystod ei ail flwyddyn y gwanwyn nesaf. Plymiodd robin bach i lawr y tu ôl i ferfain yr Ariannin i chwilio am fwyd.

O gerdded ar hyd y llwybr i’r prif Barc (byddwn yn dilyn yr un llwybr bob mis) fe sylwon ni ar bridd y wadd o flaen yr ardaloedd bywyd gwyllt mierog, ac aeron ar y cwyros coesgoch – bwyd naturiol i’r adar y mae galw mawr amdano yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn. Gwelwyd dwy ysguthan yn un o’r coed tal, yn ogystal ag ambell robin arall, a gwiwer neu ddwy! Mae ychydig ddail yn dal i’w gweld ar y blanwydden Llundain fawreddog sy’n dominyddu dechrau llwybr y Parc; mae mwyafrif ei dail yr un mor fawreddog wedi disgyn ar y borfa a bellach yn dechrau ymddatod wedi llwydrew neithiwr.

Mae clwstwr o fadarch mawr, brown gydag ymylon tonnog yn tyfu'n agos at ei gilydd ar laswellt gwyrdd, wedi'i amgylchynu gan ddail rhedyn a phlanhigion bach. Mae nodwyddau pinwydd wedi'u gwasgaru ar ben y madarch.
Ffyngau anhysbys yn y Parc!

Yn yr Ardd Goetir fe welson ni ffyngau cynffon twrci ar y boncyff i’r chwith – rydyn ni wedi gweld mwy o ffyngau yma yn y gorffennol (er nad ydym ni wedi eu hadnabod nhw i gyd eto!) ond maen nhw’n dechrau mynd ychydig yn hen bellach. Gerllaw, mae’r goeden gelyn sydd wedi’i hail-lunio’n gwneud sioe o’i haeron coch ac fe sylwon ni ar y llysiau’r gwaed yn blodeuo fel rhan o’r gorchudd daear oedd newydd ei blannu; yn ogystal â blodau neidr a briwlys y gwrych yn yr ardaloedd gwyllt o gwmpas yr Ardd Coetir.

Mae alarch gwyn yn gleidio ar draws pwll tawel wedi'i amgylchynu gan goed a changhennau, gydag awyr gymylog yn adlewyrchu yn y dŵr.
Alarch Dof ar Bwll yr Esgob

Ymhellach ar hyd y llwybr tuag at Bwll yr Esgob lle trodd ein sesiwn gwylio bywyd gwyllt yn fwy myfyriol wrth i ni oedi i wylio’r alarch dof gwyn urddasol yn nofio i fyny ac i lawr, gan fwydo ac ymestyn ei adenydd yn achlysurol ar y llyn. Fe welson ni 4 hwyaden wyllt yma, yn ogystal â 3 hwyaden chwiwell a chwtiar – gyda’i chri unigryw. Buon ni n sgwrsio ag ymwelydd cyson â’r Parc a ddywedodd ei fod wedi gweld 3 dyfrgi’n nofio tua’r dwyrain yn y pwll rai blynyddoedd yn ôl. Buasem wrth ein boddau’n cael gwybod os ydyn nhw yma o hyd – a pha bysgod y maen nhw’n eu dal!

Fe welson ni fwy o wiwerod ar y ffordd yn ôl o’r Pwll wrth i ni ymlwybro ar hyd llwybr gwaelod y waun, ar hyd ochr yr Ha-ha. Fe welson ni hefyd ddrysfa o rosebillion yn gymysg â llawryf (mae llawer o’r llawryf wedi mynd am ei fod yn llethu’r fflora brodorol – ac rydyn ni’n ysu i weld beth ddaw i’r golwg yn yr ardaloedd sydd newydd eu clirio yn y Flwyddyn Newydd), ac ar ochr arall yr Amgueddfa, mewn gwelyau ffurfiol, mae yna ffatsia, eurinllys a rhosyn pinc yn dal i flodeuo ychydig. Roedd yna flodyn melyn anhysbys ar lwybr yr Ardd Furiog – cartheig efallai?

Mae clystyrau o fadarch brown bach a dail eiddew gwyrdd yn tyfu ar foncyff coeden wedi'i orchuddio â mwsogl, gyda wal frics aneglur yn y cefndir.
Ffyngau, iorwg a mwsogl ar yr hen goed afalau yn yr Ardd Furiog

Nawr yn yr Ardd Furiog – ein cyrchfan olaf – fe welson ni flodau melyn Mair, y ferfain a thafod yr ych yn dal yn eu blodau, yn ogystal â chapanau cornicyll yn llipa wedi’r llwydrew, ond â’u harogl yn dal yn gryf yn yr aer. Buon ni’n edmygu’r cennau, rhedyn a’r ffyngau’n tyfu ar yr hen goed afalau treftadaeth, yn cael hoe eleni wedi cynhaeaf toreithiog yn 2020. Yn y borfa hirach fe welson ni ambell goesyn melyn yr hwyr – rhai’n dal i gynnal eu blodau melyn cwpanog perffaith; ac ychydig efwr blodeuog hefyd – o bosib o ganlyniad i’r modd y torrwyd y borfa’n ddiweddar.

Buasem wrth ein boddau’n gweld mwy o bobl yn ymuno â ni ar ein sesiynau gwylio misol ac yn croesawu’r rhai sy’n gallu adnabod adar, pryfed a bywyd gwyllt arall yn fawr iawn! Felly mae croeso i chi gysylltu os hoffech gymryd rhan.

Mae dau berson sy'n gwisgo siacedi gwelededd uchel yn sefyll ar laswellt ger peiriant torri gwair coch. Mae un person yn dangos rhywbeth ar ddyfais i'r llall. Y tu ôl iddyn nhw mae wal frics tal a rhywfaint o wyrddni.

Darganfyddiadau Cyffrous yn y Ardd Furiog!

Rai wythnosau yn ôl, wrth ffensio sylfeini’r hen dai gwydr yn yr ardd furiog, fe ‘gollodd’ ein contractwyr tirwedd bostyn ffens yn y tir o amgylch un o’r tai gwydr. Wrth iddyn nhw ei daro’r postyn i mewn, fe ddiflannodd mewn gwagle oddi tano.

Ar y 3ydd o  Dachwedd 2021, daeth tirfesurwyr o SUMO Survey Services â’u hoffer Radar Treiddio Tir i’r ardd furiog er mwyn gwneud arolwg o’r hyn a allai fod o dan yr ardal yma o’r ardd. Bu SUMO Survey Services yn rhan o’r tîm a ddaeth o hyd i’r Brenin Rhisard III o dan faes parcio yng Nghaerlŷr rhai blynyddoedd yn ôl.

Mae arwyddion cynnar yn dangos bod 2 ‘wagle’ wedi’u lleoli dros fetr o dan y ddaear ac rydym yn aros am eu canlyniadau llawn yn eiddgar!

Poster dwyieithog Cymraeg-Saesneg ar gyfer Sioe Parc yr Esgobion ddydd Sadwrn, 4 Medi 2021, am 2 pm, yn cynnwys cystadlaethau garddwriaethol, coginio a chrefft. Eiconau gwefan a chyfryngau cymdeithasol ar y gwaelod.

Sioe Parc Yr Esgob

Poster dwyieithog Cymraeg-Saesneg ar gyfer Sioe Parc yr Esgobion ddydd Sadwrn, 4 Medi 2021, am 2 pm, yn cynnwys cystadlaethau garddwriaethol, coginio a chrefft. Eiconau gwefan a chyfryngau cymdeithasol ar y gwaelod.Oes gennych bys per penigamp? Ydych yn medru pobi sbwng syfrdanol? Ydy’ch gwau chi’n odidog? Wel, dewch a nhw i’n Sioe Arddwriaethol ni ar y 4ydd o Fedi 2021 ym Mharc Yr Esgob, Abergwili. Mae’r atodlen ar gael yn lleol nawr, ac ar ein gwefan yn fuan! Dosbarthiadau Arddwriaethol, Adran Cartref, Gwaith Llaw ac Adran Iau.

Cliciwch yma am Amserlen y Sioe (pdf)

Cliciwch yma i lawrlwytho Ffurflen Gais (pdf)

SIOE ARDDWRIAETHOL PARC YR ESGOB
BISHOP’S PARK HORTICULTURAL SHOW

I’w gynnal ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, ar ddydd Sadwrn 4ydd o
Fedi 2021 Beirniadu i ddechrau am 12.30pm—Sioe i agor am 2.00yp

To be held at the Bishop’s Park, Abergwili on Saturday 4th of
September 2021. Judging to commence at 12.30pm—Show to open at 2.00pm

Beirniaid/Judges:
Adran Garddwriaeth/Horticultural Section: Mr Blue Barns-Thomas,
GFGC/NBGW TBC
Adran Cartref/Domestic Section: Mrs Non Knott, Bancycapel.
Gwaith Llaw/Handicraft Section: Rachel Vater, Oriel Myrddin
Adran Blant/Junior Section: Miss Helen Lewis, Felinwen.
Beirniaid/Judges:
Adran Garddwriaeth/Horticultural Section: Mr Blue Barns-Thomas,
GFGC/NBGW
Adran Cartref/Domestic Section: Mrs Non Knott, Bancycapel.
Gwaith Llaw/Handicraft Section: TBC Oriel Myrddin
Adran Blant/Junior Section: Miss Helen Lewis, Felinwen.

Gwybodaeth/ Information:
Ceisiadau i’w cymryd ar y diwrnod—Pob cais i gofrestru gyda’r ysgrifennydd ac wedi ei osod yn ei le erbyn 12.00yp ar ddiwrnod y sioe.
Tâl Cystadlu: Dosbarthiadau Garddwriaeth, Cartref a Chrefft: 30c/cais. Adran Iau: Am ddim.

Entry fee: Horticultural, Domestic & Craft Classes: 30p/entry. Junior section: Free. All entries to be taken on the day—All entries to be registered with the secretary and in place by 12pm on show day.

Bydd angen bod pob cais wedi ei dyfu/creu adref gan yr arddangoswr—All entries to homegrown/home-made by the exhibitor.  Mae penderfyniad y beirniad yn derfynol—Judge’s decision is final.

Manylion cyswllt trefydd y sioe/Show organiser’s contact details:
Ebost/email: FfionaJones@tywigateway.org.uk
Rhif ffôn Phone number: 07395082719
Cyswllt cyffredinol/General enquires: info@tywigateway.org.uk

Dosbarthiadau/Classes
Garddwriaeth/Horticulture
Llysiau/Vegetables

Dosbarth/Class1: Runner Beans (4)
Dosbarth/Class 2: Wynwns / Onions (3)
Dosbarth/Class 3: Tomatoes (4) *Rhaid i’r flodamlenni fod wedi eu
cysylltu/ calyces must be attached
Dosbarth/Class 4: Cennin wedi eu gwynnu / Blanched Leeks (3)
Dosbarth/Class 5: Casgliad o 6 llysieuyn (1 o bob un) / Collection of 6 vegetables (1 of each)
Dosbarth/Class 6: Tatws – unrhyw amrywiaeth (3) / Potatoes – any variety (3)

Blodau/Flowers:
Dosbarth/Class 7: Dahlias (3)
Dosbarth/Class 8: Pys Pêr / Sweet Peas (12 stems of mixed colours)
Dosbarth/Class 9: Planhigyn mewn Pot yn ei flodau / Pot Plant in
Bloom
Dosbarth/Class 10: Casgliad o flodau mewn fâs / Collection of
flowers in a vase

Adran Cartref:/Domestic Section:
Caif marciau eu rhoi am cyflwyniad. Dylai itemau cael eu gorchuddio gyda haenau glynni a gyda rhif y cystadleuwr ar y plât.  Rhaid i’r eitemau cael eu arddangos ar blât flat, gwyn plaen—dim standiau cacennau.  / Marks will be given for presentation. All items to be covered with cling film and with the competitor’s number on the plate.  All items must be displayed on a plain, flat, white plate – no cake stands.

Class 11: Sbwng Fictoria—Victoria Sponge
Class 12: 4 Sconen (unrhwy flas) – 4 Scones (any flavour)
Class 13: 4 Rôl Selsig—4 Sausage Rolls
Class 14: Cacen Ffrwyth—Fruit Cake
Class 15: Cacen ‘Drizzle’ Lemwn—Lemon Drizzle Cake
Class 16: Jar o’ch Hoff Jam—Jar of Favourite Jam
Class 17 Jar o’ch Hoff Sytni—Jar of Favourite Chutney

Gwaith Llaw/Handicraft Section:

Dosbarth/Class 18: Unrhyw eitem wedi ei wau neu wedi ei grosio/ Any knitted or croched item

Dosbarth/Class 19: Unrhwy eitem wedi ei wneud o bren/ Any item
made of wood

Dosbarth/Class 20: Darn o gelf yn portreadu ‘Dôl/Dolydd’ /  A piece of art depicting ‘ A Meadow/Meadows’

Dosbarth/Class 21: Ffotograffiaeth- Dyffryn Tywi/Photography – The Tywi Valley

Adran Iau—Junior Section
3 grŵp oed—Cyn oed ysgol, Cynradd (i fyny at ac yn cynnwys 11 mlwydd oed), Uwchradd (i fyny at ac yn cynnwys 18 mlwydd oed)

3 age groups – Pre-school, Primary (up to & inc. 11 yrs old),
Secondary (up to & including 18 yrs old).

Adran Goginio— ‘Bake-Off ’
Dosbarth/Class 22: 4 bisged ‘digestive’ wedi eu haddurno (plant cyn oed ysgol)/ 4 decorated digestive biscuits (pre-school), 4 decorated fairy cakes

(school-age)
Dosbarth/Class 25 Cacenn wedi ei wneud gan ddefnyddio llysiau/A cake made using vegetables.

Adran Gelf Iau/Junior Art Section
Dosbarth/Class 26: Carreg neu charreg gron wedi ei phaentio/A painted stone or pebble.

Dosbarth/Class 27: Anifail wedi ei wneud allan o lysiau a/neu ffrwyth / An animal made from vegetables and/or fruit.

Adran Garddwriaeth Iau/Junior Horticultural Section
Dosbarth/Class 28: Unrhyw bâr o lysiau wedi ei dyfu adref /Any pair of vegetables grown at home.

Dosbarth/Class 29: Blodau wedi eu tyfu adref, wedi eu harddangos
mewn pot jam / Home grown flowers displayed in a jam jar.

Dymunai staff ac ymddiriedolwyr Parc Yr Esgob a’r Gerddi, Abergwili ddiolch i bawb sydd yng nghlwm a threfnu a rhedeg y digwyddiad yma ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu i’r safle ar ddiwyrnod y sioe.

The staff and trustees at the Bishop’s Park & Gardens, Abergwili wish to thank everyone who is involved with the organisation and running of this event and we look forward to welcoming you all to the site on show day.

Mae pump o bobl mewn cae yn pentyrru ac yn cynnal pentwr tal o laswellt wedi'i dorri gan ddefnyddio picfyrc pren, gyda choed gwyrdd ac awyr las gyda chymylau yn y cefndir.

Dathlu treftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob, Abergwili

Mae plentyn ifanc yn gwisgo cap glas, sbectol haul a chrys-T gwyn yn cerdded trwy gae glaswelltog yn cario blanced wedi'i rholio a bag lliwgar ar ddiwrnod heulog.DATGANIAD I’R WASG 29-06-21

Dathlu treftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob, Abergwili

Mae bywyd gwyllt amrywiol a hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin yn cael eu harddangos mewn cyfres o ddigwyddiadau yr haf hwn ym Mharc a Gerddi’r Esgob yn Abergwili. Trefnir y digwyddiadau gan Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, elusen fechan sy’n adfer, gwarchod, cynnal a chadw’r parc hanesyddol a’r gerddi 13 hectar, a grëwyd ers 1283 gan Esgobion TyDdewi. Mae’r Parc yn amgylchynu hen balas Esgobion TyDdewi, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, CofGâr. Er bod yr amgueddfa ar gau ar hyn o bryd i’w hadnewyddu mae llawer yn mynd ymlaen yn y parc o’i chwmpas.

Mae pump o bobl mewn cae yn pentyrru ac yn cynnal pentwr tal o laswellt wedi'i dorri gan ddefnyddio picfyrc pren, gyda choed gwyrdd ac awyr las gyda chymylau yn y cefndir. Cynhelir Picnic Lladd Gwair i nodi Diwrnod Dolydd Cenedlaethol ar 3ydd o Orffennaf. Gwahoddir pobl leol ac ymwelwyr i ddathlu treftadaeth gyfoethog ffermio yn yr ardal, gyda pheiriannau hynafol, arddangosfa pladuro a lladd gwair, blasu sudd afal Parc yr Esgob, a gweithgareddau i blant. Rhannwch eich atgofion o ladd gwair yn yr ardal a darganfod sut mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoli Gwaun Fawr yr Esgob er budd y cynefin gorlifdir prin, gan bori’n gynaliadwy a monitro’r Waun.

Ar Awst 14eg bydd Gweithdy Gwneud Barcud yn canolbwyntio ar grefftau cartref traddodiadol. Bydd llwybrau natur a threftadaeth i blant yn wythnosol wedyn trwy gydol gwyliau’r Haf, i gyd-fynd â nodau’r Ymddiriedolaeth i hyrwyddo cynaliadwyedd a chwarae naturiol, a dod â mwy o deuluoedd i mewn i’r Parc.

Mae llun hen ffasiwn yn dangos person yn gyrru tractor wedi'i lwytho â byrnau gwair. Mae sawl plentyn yn eistedd ar ben y gwair, yn gwenu. Mae coed a sied fach yn y cefndir ar ddiwrnod heulog. Cynhelir Sioe Parc yr Esgob ar 4ydd Medi 2021, yn y Parc neu yn rhithiol fel y mae’r cyfyngiadau’n caniatáu. Mae’r sioe bentref poblogaidd hon, a gynhaliwyd gyntaf ym 1893, yn sioe ardd, crefftau a chynhyrchion, ac yn cael ei hadfywio ar gyfer y ganrif hon i ddod â’r gymuned ynghyd. a dathlu popeth sy’n cael ei dyfu a’i gynhyrchu’n lleol. Dewch i arddangos eich tomatos gorau, eich cacen lemwn perffaith, a’ch dahlias godidog! Gyda stondinau crefft a gweithgareddau i bawb, gan gynnwys digwyddiad gan ‘West Wales Willow’ ar hanes diddorol y fasged fenyn yn Sir Gaerfyrddin.

Cynllunnir mwy o weithgareddau ar gyfer yr hydref gan gynnwys gwehyddu helyg a gweithdai eplesu a chadw, dathliad o ddiwrnod yr afal, a gweithgareddau Calan Gaeaf a Nadolig. Mae archebu’n hanfodol ar gyfer pob gweithgaredd wedi’i drefnu; i weld y rhaglen yn llawn ewch at: https://parcyresgob.org.uk/visit-us/whats-on/

Mae coeden ddi-ddail yn sefyll yng nghanol cae glaswelltog wedi'i orlifo o dan awyr las gyda chymylau gwasgaredig. Yn y cefndir, mae mwy o goed a bryn coediog.“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n cynnal cyfres o weithgareddau gyda’r nod o ddod â’r gymuned ynghyd a dathlu 800 mlynedd o hanes, garddwriaeth a bywyd gwyllt ym Mharc yr Esgob. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl leol yn ymuno â ni ac yn ein helpu i wneud y parc sydd wedi’i adfer yn lle i bawb ei fwynhau ac i’w drysori ar gyfer y dyfodol. ”

Adferiad y Parc

Mae’r gweithgareddau sy’n digwydd yn y Parc yn rhan o’r rhaglen ehangach o adfer a gwella Parc yr Esgob a reolir gan Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob.  Ailgynlluniwyd y Parc a’r gerddi diwethaf yn yr 1840au a’r cynllun yw i adfer y parc a’r gerddi i fel yr oedd yn y cyfnod hwnnw.

Mae’r prosiect yn cynnwys adfer bragdy a golchdy’r Esgob i’w defnyddio fel caffi a chanolfan ddysgu a dehongli, creu Gardd Jenkinson, fydd yn croesawu ymwelwyr i’r Amgueddfa a’r Parc, datblygu Gardd Goetir newydd gyda ffawydden a gwympwyd yn ei chanol a gwell mynediad cyhoeddus i’r Waun Fawr gyfagos. Dyluniwyd y gerddi gan y Prif Arddwr Piers Lunt, gyda TACP UK Ltd. Mae llawer iawn o waith cadw ac adfer wedi digwydd yn y Parc ei hun, gan gynnwys clirio planhigion goresgynnol a choed heintiedig, a  gosod llwybrau newydd a meinciau deniadol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dibynnu ar Piers a thîm o wirfoddolwyr i gyflawni’r holl waith garddio – ac mae angen mwy o help arnom – i wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth, cysylltwch ag: enquiries@tywigateway.org.uk

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i’r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect ‘Parks for People’ gwerth £2.4m, a ariannir gan grant o £1.2m gan y Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda Cyngor Sir Gâr, Lywodraeth Cymru Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru a mae’r Cronfa Amaethyddol Eewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi,  AllChurches Trust, Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa,  ‘Targeted Finance FundCyngor Sir Gâr a Cronfa Eglwysi Cymru.

Am ddelweddau cydraniad uchel ewch i: https://photos.app.goo.gl/JY6mDVjZjDbBGxXN6

Nodiadau i olygyddion

Ynghylch Ymddiriedolaeth Parc yr esgob

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2016 i “hybu er budd y cyhoedd ym Mharc Yr Esgob a’i safle celfyddydol yn Abergwili y gadwraeth, amddiffyniad, gwelliannau a dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i’r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect ‘Parks for People’ gwerth £2.4m, a ariannir gan grant o £1.2m gan y Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Elusen fechan yw’r Ymddiriedolaeth gyda’r hyn sy’n cyfateb i dri aelod o staff llawn amser, sy’n dibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith.

I ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch at: https://parcyresgob.org.uk/

I roi rhodd misol i’r Ymddiriedolaeth, ewch at: https://localgiving.org/charity/the-tywi-gateway-trust/

Neu dilynwch ni ar Facebook – Trydar – Instagram – YouTube @ParcyrEsgob

 

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch â Louise Austin (Rheolydd Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob) ar 07399 265237 neu e-bost: louiseaustin@tywigateway.org.uk

A man in an orange jacket and hard hat stands in a wooded park with branches, holding a tool. Below, a person in gloves assembles a wooden bird or bat box at a table. Text describes recent park improvements.

Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio

Ciplun o gylchlythyr o'r enw Ymddiriedolaeth Porth Tywi yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda dyddiad Mai 2021. Mae'n cynnwys delweddau o giât gardd a thŷ mawr, hanesyddol gyda thestun am ddiweddariadau diweddar i'r parc. Mae dyn mewn siaced oren a het galed yn sefyll mewn parc coediog gyda changhennau, yn dal offeryn. Isod, mae person mewn menig yn cydosod blwch adar neu ystlumod pren wrth fwrdd. Mae'r testun yn disgrifio gwelliannau diweddar i'r parc.

Cefnogwch ni drwy danysgrifio i’n Cylchlythyr! Mae’n llawn newyddion am y Parc a’r Ymddiriedolaeth, gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau a sut y gallwch gefnogi ein gwaith a helpu cynnal a chadw’r Parc i’r dyfodol.

Darllenwch ein Cylchlythyr 

Cwblhewch y ffurflen yn y blwch glas isod i danysgrifio  i restr ddosbarthu  ein Newyddlen.

Diogelwch yn y Parc

Gwybodaeth i Mae plentyn sy'n gwisgo siaced goch a glas yn sefyll ar ymyl concrit ger nant fach, yn edrych dros gae glaswelltog gyda choed yn y cefndir ar ddiwrnod cymylog. Rieni a Gwarcheidwaid

Mae’r Parc yn lle bendigedig i chwarae a fforio, ond mae ynddo lwybrau cul ac anwastad, peryglon baglu megis gwreiddiau coed a mannau serth yn ogystal â phwll eitha mawr tu ôl i ffens. Mae’r ha-ha (ffos hir a dwfn) yn rhedeg ar hyd ymyl y Parc i’w wahanu oddi wrth y Waun Fawr; nid yw wedi ei ffensio a mae dŵr llonydd ynddo. Gofalwch felly fod eich plant dan oruchwyliaeth drwy gydol eu hymweliad a’r Parc.

Mae’n siwr eich bod hefyd wedi sylwi ar yr holl  blannu newydd yn y Parc. Er mwyn gwarchod fflora llawr, a sicrhau y gall planhigion newydd a bywyd gwyllt ffynnu yma, mae’n bwysig fod ymwelyr a phlant yn cadw at y llwybrau a gochel rhag pigo neu ddifrodi planhigion byw.

Darganfod beth sydd ymlaen

Mae dau blentyn â gwallt brown, yn gwisgo crysau gwyn a menig lliwgar, yn eistedd ar y ddaear wrth blannu planhigion gwyrdd bach mewn pridd ar ddiwrnod heulog.

Digwyddiadur 2021

Mae grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch ar foncyffion coed a chadeiriau mewn parc, wedi'u gwasgaru ar wahân ar y glaswellt, wedi'u hamgylchynu gan goed a gwyrddni ar ddiwrnod cymylog.Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi rhai o’n digwyddiadau eraill eleni – gobeithio fod rhywbeth at ddant pawb, ond os oes gennych unrhyw syniadau, sylwadau neu adborth, cofiwch roi gwybod. Cyhoeddir y digwyddiadau yma  ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol – felly cofiwch hoffi a rhannu i ledaenu’r newyddion!

Mae’n hanfodol archebu’r digwyddiadau hyn o flaen llaw i sicrhau y gallwn Ddiogelu ac Olrhain Covid ac i’n helpu i gynllunio ymlaen. Bydd tudalen Eventbrite ar gyfer pob digwyddiad, felly cofiwch ddod nôl i’r dudalen hon yn  rheolaidd i weld y dolennau bwcio ddiweddaraf.

Byddwn yn ychwanegu rhagor o weithgareddau a digwyddiadau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys teithiau tywys misol o amgylch y Parc a gweithgareddau gwyliau i deuluoedd.

Gweld a bwcio digwyddiadau

Sudd Afal Parc yr Esgob ar werth!

Mae tair potel wydr werdd o sudd afal gyda labeli gwyn yn sefyll ar arwyneb carreg yn yr awyr agored, wedi'u hamgylchynu gan laswellt, dant y llew melyn, a changen afal ddeiliog gyda blodau pinc yn y blaendir.Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi gwasgu afalau treftadaeth o ardd furiog yr Esgob ei hun i greu sudd afal blasus. Ar gael tra bo cyflenwad am 20 o Mai, 4-6y.h. – y cyntaf i’r felin gaiff falu! Arian parod yn unig ar hyn o bryd.

Am y Sudd

Mae gennym 3 math o sudd ar werth – sudd afal amrywogaeth sengl o wahanol goed ym mherllan Hen Balas yr Esgob, Abergwili.

Bramley – asidedd dwfn a chyfoethog

Blenheim Orange – blas “cneuog” nodweddiadol

Newton Wonder – asidedd siarp ond fymryn yn fwy melys na Bramley

Mae’r afalau oll yn amrywiaethau 19eg ganrif a dyfwyd yn naturiol ar goed afalau a blanwyd ar gyfer Esgobion Ty Ddewi yng ngardd furiog yr Esgob. Mae ein Pen Garddwr, Piers Lunt, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol i wneud yr ardd yn gynhyrchiol unwaith eto.

Cost

Cofiwch roi gwybod faint o boteli yr hoffech pan rydych yn archebu arlein.

Un botel – £3.60

3 potel – £10

6 potel – £20

Cyfnodau penodol rhwng 4 a 6 y.h.

Rydym yn gweithredu system archebu, felly cofiwch ddewis eich cyfnod hanner awr rhwng 4 a 6 y.h. Os oes ciw, cofiwch gadw 2 fetr rhyngddoch chi a phobl o’ch blaen neu tu ôl i chi.

 

ARCHEBWCH EICH LLE NAWR!