enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG
Golygfa olygfaol o ardd werdd ffrwythlon gyda choed tal a darn o flodau'r ŵyl gwyn yn blodeuo o dan awyr las lachar gyda chymylau tenau.

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt Misol

Ymunwch gyda ni ar ein taith gerdded fisol i edrych am fywyd gwyllt ym Mharc yr Esgob – ddydd Mawrth nesaf, Mehefin 21ain 2-3yp – i’n helpu i fonitro beth sy’n tyfu ac yn byw yn y Parc.
Ceir croeso gwresog i’r rheiny sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt, ond does dim angen profiad blaenorol. Byddwn yn cwrdd yng Ngardd Jenkinson am 2:00 y.p.Golygfa olygfaol o ardd werdd ffrwythlon gyda choed tal a darn o flodau'r ŵyl gwyn yn blodeuo o dan awyr las lachar gyda chymylau tenau.

Llun creon o wenynen gyda streipiau melyn a du, dau antena, a chynffon ddu fach, wedi'i dynnu ar bapur gwyn gyda llinellau beiddgar, wedi'u sgriblo.

Cystadleuaeth Logo Peillwyr

Mae plentyn ifanc yn sefyll mewn ystafell ddosbarth yn dal gwaith celf lliwgar a blwch, tra bod menyw sy'n oedolyn yn gwenu gerllaw. Mae tri phlentyn yn eistedd ar y llawr, yn eu hwynebu. Mae arddangosfeydd celf llachar a deunyddiau addysgol yn addurno'r ystafell.
1af – Seren Atherton, Ysgol Gynradd Talyllychau

Llun creon o wenynen gyda streipiau melyn a du, dau antena, a chynffon ddu fach, wedi'i dynnu ar bapur gwyn gyda llinellau beiddgar, wedi'u sgriblo.

Mae menyw yn rhoi llyfr i fachgen sy'n gwenu mewn siwmper goch o flaen arwydd mosaig lliwgar ar wal wen, gyda blychau ar y llawr gerllaw a ffens weiren yn y blaendir.
2il – Oliver Hedd Horn – Ysgol Gynradd Nantgaredig

Mae llun creon yn dangos blodau melyn a choch gyda choesynnau gwyrdd ar bapur gwyn. Mae gwenynen streipiog ddu a melyn gydag adenydd yn hedfan uwchben y blodau. Mae'r papur wedi'i grychu.

Fe wnaethom cynnal cystadleuaeth i ysgolion cynradd lleol i greu logo ar gyfer ein byrddau gwybodaeth newydd. ‘Peillwyr’ oedd y testun ar gyfer y gystadleuaeth ac fe dderbynniwyd 335 o ymgeiswyr!

Ennillwyr y gystadleuaeth oedd Seren Atherton o Ysgol Talyllychau ac fe aeth y gil-wobr i Oliver Hedd Horn o Ysgol Nantgaredig.

Fe wnaeth ein Swyddog Ymgysylltu Cymunedol a dau o’n hymddiriedolwyr, Betsan Caldwell ac Anne Loughrane, ymweld a’r ddwy ysgol yn ddiweddar er mwyn gwobryo Seren a Oliver.

 

Mae llun Seren i’w weld ar ein byrddiau gwybodaeth er mwyn nodi gwybodaeth am fywyd gwyllt y parc, ac fe fydd llun Oliver yn cael ei harddangos yn ein canolfan newydd yn fuan.

 

 

 

 

 

 

Mae galeri o luniau’r ymgeiswyr i’w gweld ar ein gwefan

Sioe Arddwriaethol Parc Yr Esgob 2022

Arddangosfa bwrdd mewn ffair gyda blodau lliwgar mewn fasys, cacennau a bisgedi ar blatiau, pob cofnod wedi'i labelu â chardiau sy'n dangos safleoedd gwobrau fel cyntaf, ail a thrydydd. Y cefndir yw pabell fawr wen blaen.
@Cliff Day

Yn dilyn llwyddiant llynedd, bydd Sioe Arddwriaethol Parc Yr Esgob yn ei hôl eleni ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fedi, gyda dosbarthiadau newydd ar gyfer gwenynwyr, yn ogystal â dosbarthiadau ar gyfer tyfwyr llysiau a blodau, pobyddion, gwneuthurwyr cyffeithiau, crefftwyr a dosbarthiadau iau.

Mae’r atodlen ar gael yma yn awr: Show schedule 22 – LA edit-CND02830BL

Ffurflen gais: file: Entry Form
Bydd y beirniaid yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Llun agos o flodyn bywiog gyda phetalau oren a melyn wedi'u gorchuddio â diferion dŵr, wedi'u canoli o amgylch craidd brown tywyll, gweadog. Dail gwyrdd a brown aneglur yw'r cefndir.

Ffair Blanhigion Newydd yn y Parc!

DATGANIAD I’R WASG 15-03-22

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd Parc yr Esgob! Atyniad ymwelwyr poblogaidd Sir Gaerfyrddin i gynnal Ffair Blanhigion newydd y Pasg hwn.

Bydd Parc a Gerddi’r Esgobion yn Abergwili yn mynd o nerth i nerth y Pasg hwn gan lansio rhaglen weithgareddau 2022 gyda Ffair Blanhigion y Gwanwyn newydd ddydd Sul 10 Ebrill, o 10 y bore tan 2 y prynhawn. Wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn, yr elusen fach sy’n gyfrifol am adfer y Parc ac atgyweirio’r adeiladau allanol adfeiliedig, bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r lleoliad sydd newydd ei adfer ar gyfer ymwelwyr a’i hybu fel man allweddol yng Nghymru i ymweld ag ef, i’w fwynhau ac i ddysgu.

Gan ddathlu rhai o dyfwyr mwyaf blaenllaw Gorllewin Cymru yn cynnwys Farmyard Nurseries, West Wales Willow, Liliwen Herbs a Brynllwyd Nurseries, bydd y Ffair Blanhigion newydd yn helpu i roi Caerfyrddin ar y map twristiaeth a garddwriaethol, gan groesawu garddwyr, casglwyr  planhigion ac ymwelwyr o bob rhan o’r ardal.

Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys sgwrs gan y Prif Arddwr Piers Lunt am Ardd newydd Jenkinson (11 y bore), a fydd yn trafod yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddyluniad a sut mae’r plannu’n defnyddio cyltifarau treftadaeth er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl i fywyd gwyllt. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymuno â thaith rad ac am ddim o’r parc gan Piers am 1 y prynhawn, gan gynnwys yr ardd furiog nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Dywedodd Louise Austin, Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, “Rydym mor falch o gynnal y digwyddiad cyffrous hwn ar gyfer Caerfyrddin a’r ardal ehangach. Mae wedi bod yn brosiect enfawr i adfer y parc a’r gerddi i’w cyn-ogoniant ac rydym wrth ein bodd o weld ein holl waith caled, a gwaith caled ein gwirfoddolwyr yn dwyn ffrwyth o’r diwedd. Gan ein bod ni mor angerddol ynglŷn â chynaliadwyedd, mae dathlu tyfwyr lleol, tra’n annog mwy ohonom i arddio a thyfu ein rhai ein hunain er lles a dyfodol y blaned, yn ffordd berffaith o agor gweithgareddau’r flwyddyn.”

Ffenestr unigryw i Dreftadaeth Sir Gaerfyrddin

Amgylchyna Parc a Gerddi’r Esgobion yn Abergwili Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, sef Palas Esgobion Tyddewi gynt – a gall ymwelwyr nawr dreulio diwrnod llawn ar y safle wrth i’r ddau atyniad i ymwelwyr gyfuno i arddangos garddwriaeth, bywyd gwyllt a threftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin. Gyda dwy ardd newydd, parcdir wedi’i adfer, meinciau newydd a phaneli dehongli, golygfeydd ar draws Dyffryn Tywi, rhaffau sgramblo a boncyff cydbwyso i blant, yn ogystal a3 chaffi a chanolfan ddysgu sydd ar agor yn hwyrach yn ystod y Gwanwyn, mae llawer i’w weld a’i wneud ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Helpwch i sicrhau bod Parc yr Esgob ar ei newydd wedd yma i aros …

Elusen fach iawn yw Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn ac mae angen mwy o gefnogaeth i sicrhau bod Parc yr Esgobion ar ei newydd wedd yma i aros. Cefnogwch nhw drwy ymweld, gwirfoddoli, cyfrannu, neu ledaenu’r gair am eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae mwy o ddigwyddiadau ar y gweill yn y parcar gyfer yr Haf, gan gynnwys ail-greu Brwydr Abergwili ar 13eg Awst a sioe boblogaidd Parc yr Esgob sy’n dychwelyd ym mis Medi. Er mwyn dysgu mwy ewch i: www.parcyresgob.org.uk

 

 

Lluniau

Er mwyn lawrlwytho’r lluniau yma a mwy ar gyfer y Datganiad hwn i’r Wasg: https://photos.app.goo.gl/Dsunas8aDh17uQZi8

 

Am luniau cyffredinol ar gyfer ymwelwyr: https://photos.app.goo.gl/PynhZjTB4un7NKsh6

 

Llun agos o flodyn bywiog gyda phetalau oren a melyn wedi'u gorchuddio â diferion dŵr, wedi'u canoli o amgylch craidd brown tywyll, gweadog. Dail gwyrdd a brown aneglur yw'r cefndir.Mae Gardd newydd Jenkinson yn y Parc yn llawn o blanhigion ar gyfer bywyd gwyllt a harddwch. ©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn Mae person sy'n gwisgo crys oren yn cerdded trwy ardd, a welir trwy fwa carreg. Mae'r olygfa'n llachar ac yn heulog, gyda phlanhigion yn tyfu ar hyd y llwybr a wal garreg yn fframio'r olygfa.Bydd cyn Ardd Furiog yr Esgob ar agora r gyfer Ffair Blanhigion y Gwanwyn.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

 

Dwy fenyw hŷn yn cerdded trwy dirwedd laswelltog.Mae Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn wedi adfer y parcdir gan agor golygfeydd ar hyd Dyffryn Tywi ar gyfer ymwelwyr.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

Llun agos o wely gardd gyda blodau gwyllt tal, tenau a phlanhigion gwyrdd yn tyfu mewn pridd, gyda llwybr carreg troellog a gwyrddni aneglur yn y cefndir.Mae’r ffair yn cynnwys sgyrsiau rhad ac am ddim gan y Prif Arddwr Piers Lunt fydd yn sôn am yr ysbrydoliaeth ar gyfer Gardd newydd Jenkinson (yn y llun) a sut mae’r plannu’n cynnwys cyltifarau treftadaeth.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

Nodiadau i olygyddion

Ynghylch Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2016 i “hybu er budd y cyhoedd ym Mharc Yr Esgob a’i safle celfyddydol yn Abergwili y gadwraeth, amddiffyniad, gwelliannau a dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i’r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect ‘Parks for People’ gwerth £2.4m, a ariannir gan grant o £1.2m gan y Loteri Genedlaethol.

Elusen fechan yw’r Ymddiriedolaeth gyda’r hyn sy’n cyfateb i dri aelod o staff llawn amser, sy’n dibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith.

I ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch at:  www.parcyresgob.org.uk

I roi rhodd misol i’r Ymddiriedolaeth, ewch at: https://localgiving.org/charity/the-tywi-gateway-trust/

Neu dilynwch ni ar Facebook – Trydar – Instagram – YouTube @ParcyrEsgob

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch â Louise Austin (Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn) ar 07399 265237 neu e-bost: louiseaustin@tywigateway.org.uk

Datganiadau i’r Wasg

https://parcyresgob.org.uk/cy/category/press-news/gwasg/

 

 

 

Mae blodau hellebore pinc a gwyn gyda chanol brych yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd, gyda dail brown wedi cwympo i'w gweld ar y ddaear yn y cefndir.

Gwylio Bywyd Gwyllt – Chwefror 2022

Mae blodau hellebore pinc a gwyn gyda chanol brych yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd, gyda dail brown wedi cwympo i'w gweld ar y ddaear yn y cefndir.15 Chwefror 2022, 2-3.30pm. Gyda Caroline, Suzie, Huw, Max, Ruth, a Malcolm

Diwrnod llwyd arall i’n sesiwn Chwefror – ond braf oedd cael cymaint o naturiaethwyr arbenigol yma yn y Parc heddiw! Yn ymuno â ni roedd Huw, sy’n lleol, yn wirfoddolwr garddio ac yn frwd dros fywyd gwyllt, Ruth a Malcolm, gyda chefndir ecolegol, Max (ein harbenigwr adareg o’r mis diwethaf), a Suzie (gwirfoddolwr garddio a bywyd gwyllt brwd).

Wrth gwrdd â Max yn y maes parcio gwnaeth adnabod cân y fronfraith a’r fwyalchen ar unwaith – cadwch eich llygaid a’ch clustiau ar agor am fywyd gwyllt bob amser!

Yng ngardd Jenkinson gwelsom lawer o’r cannoedd o fylbiau a blannwyd gan wirfoddolwyr garddio yn dod i fyny drwy’r ddaear noeth – crocws oren a phorffor, tiwlipau yn y borderi; cennin pedr yn y glaswellt o gwmpas y borderi crwn; dail briallu leim yn aros i flodeuo yng nghorneli’r safle. Adroddodd Huw fod gïach fach / jac wedi ei gweld ger y pwll yr wythnos diwethaf – a welsoch neu a glywsoch chi hon? Rhowch wybod i ni!

Llun agos o sawl blaguryn crocws porffor gyda diferion dŵr ar eu petalau, yn tyfu ymhlith glaswellt gwyrdd a mwsogl.

Ar y ffordd i’r Ardd Goetir gwelsom domenni twrch daear a gwiwer lwyd, briallu yn blodeuo a chennin pedr yn blaguro; llin llyffant yn ymestyn dros y ddaear.

Briallu – thrum neu bin?

I’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr yn ein plith, cyflwynwyd nodwedd hynod ddiddorol ac anarferol o’r briallu brodorol! Oeddech chi’n gwybod bod ganddo ddau fath o flodyn bron yn union yr un fath – un gyda ‘thrum’ neu ‘llygaid-thrum’ (clwstwr o gyrn melyn) a’r llall gyda ‘pin’ neu ‘llygaid-pin’ (disg werdd)? Mae’r blodau wedi’u cyfansoddi’n berffaith i alluogi pryfed fel y glöyn byw brwmstan i’w peillio – darllenwch fwy am y mathau anarferol hyn o flodau yma (yn Saesneg).

 Llun agos o flodau briallu melyn golau gyda chanol melyn, wedi'u hamgylchynu gan ddail gwyrdd crychlyd ac ychydig o ddail brown wedi cwympo yn y cefndir.Roedd llawer o adar i’w gweld a’u clywed yn y coetir er gwaetha’r lleithder a’r llwydni – robin goch yn gwichian a’r titw tomos las, titw mawr, ji-binc, brân a cholomennod o’n cwmpas.

Wrth gyrraedd Pwll yr Esgob clywsom alwad iâr ddŵr, ond ni welsom unrhyw adar ar y pwll heddiw. Gwelsom gwte ŵyn bach ar yr helyg a’r cyll ac adnabod polytrichum  (cap neu fwsogl gwalltog) ar fonyn mawr, yn tyfu i fyny drwy’r briallu.

‘Eirlysiau diflas’

 Heddiw dysgon ni hefyd am yr eirlysiau ‘grumpy’ gan Suzie!  Ffenomenon anhysbys braidd pan fydd ambell eirlys i’w weld gyda’i ben i lawr gyda’r ddau ddot gwyrdd ar gyfer y llygaid uwchben. Bydd plant bach wrth eu bodd yn chwilio am y gemau blodeuol gaeafol hyn.

Mae blodyn gwyllt melyn llachar gyda dail gwyrdd sgleiniog yn tyfu ymhlith creigiau mwsogl a rhedyn mewn lleoliad coedwig gysgodol.

Gwelsom lygaid Ebrill yn eu blodau ar gyrion lawnt y prif barc, lle’r llynedd roeddem wrth ein bodd â llu o flodau gwyllt mewn ardaloedd a adawyd yn fwriadol heb eu torri fel rhan o’n trefn newydd, yn rheoli’r Parc ar gyfer bywyd gwyllt (a harddwch!).

Gwelwyd pâr o siglennod brith ar ymyl yr ha-ha – ac yna hedfanodd crëyr glas dros y Waun Fawr. Dysgon ni am ‘Mares Nest’ gan Ruth – y dryswch o ganghennau o gwmpas boncyff aeddfed (ai palalwyfen ydyw?) ar y llwybr gwaelod, sy’n wynebu’r ddôl, a dwedodd Huw ei fod wedi gweld gwalch glas yma rai misoedd yn ôl. Aeth mwyalchen ar draws y llwybr i chwilio am fwyd ac wrth fynedfa’r Amgueddfa, pan aethom i nôl allweddi’r ardd furiog, gwelsom fronfraith fawr a dwy golomen.

Cacennau wedi eu Llosgi!

 Y tu allan i’r ardd furiog mae pentwr o foncyffion di-nod yr olwg, – ond edrychwch yn ofalus ac fe welwch beth a elwir yn ’King Alfred’s Cakes’ ! Gan edrych fel byns bach, crwn wedi’u llosgi, mae’r ffwngau diddorol hyn yn tyfu ar bren ynn yn unig ac fe’i defnyddiwyd i gynnau tân a fflachlampau yn y gorffennol. Gyda hyn sbonciodd wiwer ar hyd wal yr ardd furiog o’r 18fed ganrif.

Yn yr ardd furiog

Y tu mewn i’r ardd furiog gwelsom sawl titw mawr a llinos eurben, robin goch, , pibydd y waun (ein cyntaf hyd yma ar y daith hon) a mefus gwyllt yn eu blodau. Yn gyffrous, gwelwyd dwy linos werdd, gwryw a benyw, yn yr hen goed afalau – cynnydd o’r un sengl a welsom fis diwethaf. Mae’r adar hyn ar y ‘rhestr goch’ o’r rhywogaethau sydd mewn perygl – felly mae’n wych gwybod eu bod wedi gwneud yr ardd furiog yn gartref iddynt! (Darllenwch fwy yn erthygl mis diwethaf am eu cyflwr a sut y gallwch chi eu helpu).

Hedfanodd bwncath ar draws y fynwent drws nesaf, a thra fuom yn sgwrsio ar ddiwedd y sesiwn cawsom y fraint o weld murmur o ddrudwy dros y cae – un bach ond wedi ei ffurfio’n berffaith – digon agos i weld eu cyrff disglair yn codi’n llu yn erbyn golygfa o ddyffryn Tywi yn y cefndir.

Am ffordd wych o dreulio cwpwl o oriau ar ddiwrnod llwydaidd – dysgu llawer wrth bobl eraill. Mae’r Parc yn llawn bywyd pan edrychwch – a gwrandewch – yn fanwl!

Ymunwch â ni!

Wedi’ch ysbrydoli i ymuno â ni’n gwylio bywyd gwyllt y tro nesaf, neu eisiau helpu i fonitro ein bywyd gwyllt? Cysylltwch trwy e-bost: enquiries@tywigateway.org.uk  neu llenwch y ffurflen gyswllt.

Mae coeden fawr, ddi-ddail gyda nifer o ganghennau troellog wedi'i silwétio yn erbyn awyr gymylog, gymylog, gan greu patrwm cymhleth o linellau tywyll.

Llun agos o flodau briallu melyn golau gyda chanol melyn, wedi'u hamgylchynu gan ddail gwyrdd crychlyd ac ychydig o ddail brown wedi cwympo yn y cefndir.

(English) Wildlife Watch – Jan 2022

Orange, ruffled fungi grow on a decaying log surrounded by green moss. The wood shows visible texture and grain, contrasting with the vibrant colours and organic shapes of the moss and mushrooms.
Turkey tail fungi (photo: Suzie Fraser)

25th January 2-3.30pm – With Caroline, Suzie, Max and Penny

Well its always a huge bonus when an ornithological expert turns up to your monthly wildlife watch!  Local residents Max and Penny saw the publicity for January’s walk on Facebook and decided to come along – and how glad we were that they did!  We spotted (and heard) more birds on our January watch than we ever have before – thank you Max and Penny!

 Llun agos o flodyn periwinkle porffor bywiog gyda phum petal, wedi'i amgylchynu gan ddail gwyrddlas, sgleiniog. Mae'r cefndir ychydig yn aneglur, gan amlygu'r blodyn fel y prif ffocws.

It was a grey cloudy day but as we walked around the Park we heard dunnock, blackbird, and saw celandine, wild strawberries, cheering green primrose leaves and the spiked lords & ladies coming up through the leaf litter.

 Llun agos o dri chynffon oen bach hirgul, pinc yn hongian o gangen denau, gyda chefndir aneglur o frigau noeth a lliwiau naturiol tawel, yn awgrymu dechrau'r gwanwyn neu ddiwedd y gaeaf.

Near the pond we heard / saw 2 moorhen, jay, pigeon and mute swan, mistle thrushes, long tailed tits, great tits and blue tits.  We noticed the pale yellow catkins, like tiny lambs tails – important early pollen for bees – on the hazel around the pond. 

 Mae clystyrau o fadarch oren-frown yn tyfu ar ac o amgylch boncyff coeden sy'n pydru, wedi'u hamgylchynu gan ddail sych, planhigion gwyrdd a brigau mewn lleoliad awyr agored naturiol.

More primroses along the ha-ha path and turkey tail fungi on a log pile there.   In the walled garden we heard song thrushes and a chaffinch, a very exciting turn up –a greenfinch in the apple trees!  You can ID a greenfinch by its distinctive green colours and its repeated ‘cheese’ call – find out more.   

Mae dail eiddew gwyrdd a choesynnau cochlyd-frown yn ymledu ar draws arwyneb carreg llwyd, garw, gan greu patrwm naturiol o ddail a gwead.

The greenfinch population has been decimated in recent years due to ‘trichomonosis’, a disease that prevents the birds from feeding properly – and they are now on the ‘red list’ of UK endangered birds.  Intensive farming has also diminished its food supply.  To help stop the decline of the greenfinch population – make sure you clean your birdfeeder regularly – find out more.

What will you see in the Park today?

 

Dôl werdd ffrwythlon gyda glaswellt tal, blodau gwyllt, a choed gwasgaredig o dan awyr gymylog. Mae dail trwchus yn fframio'r olygfa, gan greu tirwedd heddychlon, naturiol.

Ysbrydoliaeth Barddoniaeth: Aros i’r Ardd

 

Gardd ffrwythlon, wedi gordyfu gyda blodau gwyllt, coed a glaswellt tal. Mae polion pren yn gorwedd yn y blaendir, ac mae pot mawr gwag i'r chwith. Mae'r awyr yn gymylog, ac mae wal gerrig yn ffinio â'r ardd yn y cefndir.

Yma ym Mharc yr Esgob rydyn ni’n hynod ffodus fod gyda ni wirfoddolwyr arbennig iawn.

Roedd y cyfnod clo’r llynedd yn amser heriol iawn i gymaint ohonom, ac roedden ni’n hynod o drist o orfod cau’r Parc i’n tîm cyson o wirfoddolwyr ymroddedig.

Doedden ni ddim ar ein pennau ein hunain, a chafodd un o’n gwirfoddolwyr garddio ei ysbrydoli gymaint adeg y clo, nes iddo ddechrau ysgrifennu. Rydyn ni wrth ein boddau â’r gerdd hon sy’n cwmpasu cymaint o’r hyn a gollwyd gennym yn ystod y cyfnod anodd hwn – o ffrindiau, i waith, i’r llefydd sy’n rhan o’n bywydau bob dydd … Diolch, Neil.

 

Waiting for the Garden

I’m bored of my back garden
A small and boring square
I’ve strimmed and trimmed and tended
The soil’s now flat and bare

No weed will dare to spoil it
I’ll kill the bugger straight
The spuds are up, the beans are in
I sit around and wait.

I’m waiting for the garden
That’s big and old and tough
Wrestling back the brambles
Gardening hard and rough.

I’m waiting for the garden
The wall that blocks out hell
The other side is tranquil
A space that makes you well.

I’m waiting for the garden
The space we hold so dear
The sound of apples hitting ground
The only noise you’ll hear.

I’m waiting for the garden
Space for all to dream
A space where all are equal
Wild, not farmed, deep green.

I’m waiting for the banter
And Dilys’ ‘valley tales’
Teaching Tad to swear in Welsh
It’s different see in Wales.

I’ve not seen new wild flowers
Walked knee deep buttercup

I’ll hammer on the door next week
“Please Piers open up”

Mae Neil Rosser yn gerddor lleol ac yn athro sydd newydd ymddeol.

Wedi’ch ysbrydoli i wirfoddoli gyda ni? Darganfod mwy.

Mae person sy'n defnyddio dril pŵer yn gosod blwch adar ar foncyff coeden wedi'i amgylchynu gan ddail gwyrdd, gyda golau'r haul yn hidlo trwy'r canghennau.

Cyfle Kickstart: Garddwr Cynorthwyol!

Di-waith a rhwng 16-24? Dewch i ymuno gyda’n tîm cefnogol a chyfeillgar! Cyfle arbennig cynllun ‘Kickstart’ ym Mharc Yr Esgob yn gweithio gyda’n prif arddwr, Piers Lunt, 25 awr yr wythnos fel ‘Garddwr Cynorthwyol’.

Dysgwch am arddwriaeth, garddio, rheolaeth coedwig a dolau mewn safle hyfryd, ymysg coed hynafol, gardd furiog a pharcdir hanesyddol. Cytundeb cyflogedig 6 mis.

⏰Ymgeisiwch erbyn 28ain Chwefror ⏰ Darganfyddwch mwy a gwnewch gais 👉 http://bit.ly/33fXuQv

Mae merch ifanc yn gwenu wrth eistedd wrth fwrdd picnic pren yn yr awyr agored gyda dau berson arall, wedi'u hamgylchynu gan wyrddni a golau'r haul.

Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr!

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian ar gyfer hyfforddi a chefnogi pobl ifanc i greu ffilmiau dwyieithog ac apiau gemau fideo o Barc Yr Esgob ac Amgueddfeydd Sir Gâr!

Bydd y prosiect, o’r enw –‘Parc Yr Esgob Hanes a Chof: Dal, Digido a Rhannu ein Storiâu’, yn cyflawni dehongliadau wedi eu canoli o amgylch pobl ifanc ar y safle ac ar-lein, sydd wedi eu ffocysu ar hanes pobl, newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Bydd y prosiect yn ysgogi dysgu creadigol, datblygu sgiliau trosglwyddiadol a gwybodaeth draws-gwriciwlar, a bydd yn cysylltu pobl ifanc yn ddyfnach gyda’r dreftadaeth sydd ar eu stepen drws. Diolch o galon i @HeritageFundCYM a @Cadw