Mae eich barn yn bwysig i ni am ddyfodol Gardd Furiog, Parc yr Esgob.
Flynyddoedd maith yn ôl, yr ardd furiog hanner erw, wedi’i chuddio ar ochr orllewinol Y Parc oedd yn lle canolog iawn i Balas yr Esgob. Yn dyddio nôl i 1790 o leiaf, ac unwaith yn galon i’r ystad, roedd yr ardd yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau, gan gynnwys pinafalau ar gyfer bwrdd yr Esgob.
Heddiw, mae cynlluniau cyffrous ar y gweill er mwyn adfer yr ardd furiog i’w hen ogoniant. Ar ôl derbyn gwobrau sylweddol o Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Y DU, ein gobaith yw agor yr ardd furiog i’r cyhoedd yn y dyfodol.
Mae’n bwysig i ni wrando ar farn ein hymwelwyr a’n cymuned leol er mwyn penderfynu beth fydd yn digwydd i’r ardd furiog ac i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu cymryd rhan.
Byddem yn falch o glywed eich barn.
Llenwch ein harolwg byr trwy glicio ar y ddolen hon: https://forms.office.com/e/fvnEpE4DXi. Arolwg byr yw hwn a dim ond pum munud ddylai gymryd i’w lenwi.
Am fwy o fanylion cysylltwch â ni: Teresa Walters 07387 751571 teresawalters@tywigateway.org.uk neu Anne May 07909 544017 annemay@tywigateway.org.uk.

Posted: 31/01/2024 by Ffiona Jones
Cymwysterau Achrededig am ddim i Wirfoddolwyr Garddio
Rydym nawr yn cofrestru gwirfoddolwyr ar gyfer ein sesiynau hyfforddiant Agored Cymru, sydd am ddim. Os ydych rhwng 16 a 55 mlwydd oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch a FfionaJones@tywigateway.org.uk Ffôn: 07395082719
Posted: 31/01/2024 by Ffiona Jones
Ffair Blanhigion Y Gwanwyn – Dydd Sul 21ain Ebrill 2024
Mae ymholiadau stondinwyr ar gyfer ein Ffair Blanhigion nawr ar agor. Cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk Ffôn: 07395082179 am fwy o fanylion.
Posted: 14/12/2023 by Admin2
Dweud eich dweud am gyfrinach fawr Parc yr Esgob!
Flynyddoedd maith yn ôl, yr ardd furiog hanner erw, wedi’i chuddio ar ochr orllewinol Y Parc oedd yn lle canolog iawn i Balas yr Esgob. Yn dyddio nôl i 1790 o leiaf, ac unwaith yn galon i’r ystad, roedd yr ardd yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau, gan gynnwys pinafalau ar gyfer bwrdd yr Esgob.
Heddiw, mae cynlluniau cyffrous ar y gweill er mwyn adfer yr ardd furiog i’w hen ogoniant. Ar ôl derbyn gwobrau sylweddol o Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Y DU, ein gobaith yw agor yr ardd furiog i’r cyhoedd yn y dyfodol.
Mae’n bwysig i ni wrando ar farn ein hymwelwyr a’n cymuned leol er mwyn penderfynu beth fydd yn digwydd i’r ardd furiog ac i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu cymryd rhan.
Byddem yn falch o glywed eich barn.
Llenwch ein harolwg byr trwy glicio ar y ddolen hon: https://forms.office.com/e/fvnEpE4DXi. Arolwg byr yw hwn a dim ond pum munud ddylai gymryd i’w lenwi.
Am fwy o fanylion cysylltwch â ni: Teresa Walters 07387 751571 teresawalters@tywigateway.org.uk neu Anne May 07909 544017 annemay@tywigateway.org.uk.
Posted: 17/11/2023 by Ffiona Jones
Gwobr Y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2023
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddu bod ein gwirfoddolwyr arbenning yma ym Mharc Yr Esgob wedi ennill ‘Gwobr Y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2023! Mae’r wobr, sydd yn gyfwerth a ‘MBE’, yn adnabod rhagoriaeth mewn gwirfoddoli ar draws yr DU, ac yn destament i waith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr dros nifer o flynyddoedd, a thrwy rhai amseroedd heriol.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl dim, a diolch yn fawr – fedrwn ni ddim gwneud yr hyn a wnawn hebddoch!
#KAVS2023
https://www.google.com/maps/d/viewer…
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Bwcio Teithiau Dywysedig ar gyfer Grwpiau
Ydych chi’n glwb, cymdeithas neu’n fudiad yn chwilio am rywle ar gyfer eich trip haf?
Ydych chi’n drefnydd teithiau ac yn chwilio am fan i ddod a’ch cwsmeriaid?
Pam na ddewch chi i Barc Yr Esgob? Gyda’n partneriaid Cegin Stacey ag Amgueddfa Sir Gar, fedrwn ni gynnig ddigon i’w weld a gwneud ar ein safle.
Bwciwch Daith Dywysedig o’r parc a’r gerddi a dysgwch am hanes y safle a’r hyn sydd yn ei wneud yn mor arbennig. Cymerwch dro o amgylch Amgueddfa Sir Gar, sydd wedi ei leoli o fewn Hen Balas Yr Esgob, i weld eu harddangosfa ddiweddaraf a’r arteffactau sy’n rhan o stori Sir Gaerfyrddin. Bwciwch fwrdd yng Nghegin Stacey er mwyn mwyhau cinio neu de prynhawn.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion: enquires@tywigateway.org.uk
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Mynediad i’r Ardd Furiog
Nid yw’r Ardd Furiog ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd am resymau iechyd a diogelwch. Er hynny, mae’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan ein garddwyr a gwirfoddolwyr garddwriaethol er mwyn tyfu cynnyrch i ‘Cegin Stacey’s Kitchen’.
Rydym yn cynnwys mynediad i’r Ardd Furiog yn ystod ein Teithiau Tywys rheolaidd ac yn ystod digwyddiadau arbennig, os yw’r tywydd yn caniatâi. Edrychwch ar ein tudalen ‘Beth Sy ‘Mlaen’ am fwy o wybodaeth.
Rydym yn flin ond does ddim mynediad i’r anabl ar hyn o bryd.
Os ydych yn digwydd gweld y drws ar agor a does ddim arwydd ei fod ar agor i’r cyhoedd, gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd i mewn.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad
Posted: 15/05/2023 by Ffiona Jones
App Actionbound
Mae’r llwybr i gael ar app ‘Actionbound’ ac y mae’n addas ar gyfer unrhyw oed.
https://actionbound.com/bound/history-of-parc-yr-esgob
Mi fydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.
Posted: 02/05/2023 by Ffiona Jones
A fedrech chi fod yn Ymddiriedolwr? Ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr!
Mae Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, sy’n rheoli Parc Yr Esgob, Abergwili, yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno gyda’i Bwrdd Ymddiriedolwyr.
A ydych yn byw yn y gymuned leol? Oes gennych un neu gyfuniad o sgiliau entrepreneuriaid neu sgiliau codi arian neu greu incwm, neu sgiliau marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus? Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan https://parcyresgob.org.uk/cy/could-you-be-a-trustee-why-not-join-our-board-of-trustees/
Dyddiad cau 30/06/2023
Posted: 26/04/2023 by Ffiona Jones
Cŵn ar Dennyn
Bydd rhai ymwelwyr eisioes wedi sylwi bod arwyddion newydd wedi cael ei gosod i’ch atgoffa i gadw eich ci ar dennyn wrth ymweld â’r parc.
Mae Parc Yr Esgob yn ardd bwysig am ei hanes, ei garddwriaeth ac am ei fywyd gwyllt, a dyna sy’n ei wneud yn mor arbennig.
Rydym am i bawb cael profiad da o ymweld â’r Parc, felly rydym yn gofyn i bob perchennog ci i ymddwyn yn gyfrifol â chadw eu cŵn ar dennyn ac wrth gwrs, codi eu baw i fyny a’i osod yn y biniau (mae 3 o fewn y Parc a hefyd rhai yn y maes parcio allanol). Helpwch diogeli plant a bywyd gwyllt.
Posted: 05/04/2023 by Ffiona Jones
Stacey’s Kitchen
Bydd Stacey’s Kitchen yn cau am 3:30yp heddiw, dydd Mercher 5ed o Ebrill 2023 ar gyfer digwyddiad preifat.
Byddant ar agor o 9:00yb tan 5:00yp bob dydd o ‘fory ymlaen.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleistra.