Croeso MAWR i’r tîm!
29/09/2025
By Admin2
Croeso cynnes i Gemma Edwards, Swyddog Addysg newydd Parc yr Esgob, a ymunodd â ni ym mis Medi fel rhan o’n Prosiect Adferiad Gardd Furiog. Mae gan Gemma brofiad helaeth fel athrawes y Cyfnod Sylfaen, gyda brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a llond trol o syniadau. Rydyn ni wrth ein boddau o allu …
















Tag: ystumlod
Ystlumod Parc yr Esgob
Posted: 02/12/2021 by Caroline Welch
Mae cyfanswm o chwe rhywogaeth o ystlumod wedi eu cofnodi ym Mharc yr Esgob yn cynnwys ystlumod lleiaf a soprano, ystlumod hirglust, ystlumod Natterer, ystlumod mawr a’r ystlum pedol mawr prin ac arbennig. Rydyn ni wrth ein boddau fod y creaduriaid arbennig yma wedi ymgartrefu yma ym Mharc yr Esgob ac yn ffynnu yma. Mae’r ystlumod pedol mawr a gofnodwyd …
Category: Bywyd Gwyllt Tags: ystumlod, natur, bywyd gwyllt
Gardd Coedtir
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Ymlwybrwch drwy’r coed er mwyn cyrraedd ein Gardd Goetir newydd, sydd wedi’i lleoli o fewn powlen naturiol â choeden ffawydd aeddfed wedi’i thorri’n ganolbwynt iddi – y man delfrydol ar gyfer ymarfer eich sgiliau balansio! Ymlaciwch a mwynhau’r cysgod brith a chân yr adar; mwynhewch y golygfeydd ar draws yr Ha-ha a thros Ddyffryn Tywi. …
Category: Archwilio'r Parc, Gardd Coedtir Tags: ystumlod, ffawydd, adar, bylbiau’r gwanwyn, coed, Coetir
Bywyd Gwyllt
Posted: 12/06/2021 by Admin
Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!
Category: Featured Tabs, Bywyd Gwyllt Tags: ystumlod, adar, cwtiar, hwyaid, madarch, natur, dyfrgwn, peillwyr, alarch, coed, blodau gwyllt, bywyd gwyllt