enquiries@parcyresgob.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Gaerfyrddin SA31 2JG
Mae grŵp o bobl yn sefyll mewn ardal laswelltog, goediog, yn ffurfio hanner cylch o amgylch darn bach o bridd newydd ei gloddio. Mae'n ymddangos bod un person yn siarad, tra bod eraill yn gwrando ac yn dal papurau. Mae'r tywydd yn heulog.

Llongyfarchiadau i Michael Norman MBE!

Plannu llwyfen wen Ewropeaidd ym Mharc yr Esgob i ddathlu cyfraniad Michael Norman i’r safle.  Cafodd Michael Norman, un o’r ymddiriedolwyr a sylfaenodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i dreftadaeth. Roedd Michael yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru 30 mlynedd yn ôl, ac yn …

Mae sawl person yn gweithio gyda'i gilydd mewn gardd sydd wedi gordyfu, wedi'i hamgylchynu gan waliau cerrig a choed, yn clirio chwyn ac yn plannu ger gwelyau uchel a bwcedi ar ddiwrnod cymylog.

Cyflwyniad i Arddio

Gwirfoddolwch gydag Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob ac ymunwch â Piers yn y parc ar ddydd Mercher 14eg o Dachwedd o 10.00 tan 3.00. Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn paratoi i arddio ym Mharc yr Esgob, Abergwili, cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Mae Piers Lunt, prif arddwr newydd yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am wirfoddolwyr i ddod i helpu. …

Yn eisiau – Ymddiriedolwyr

Ydych chi’n caru Caerfyrddin? Ydych chi’n gofidio am ein treftadaeth, tirwedd a’r amgylchedd? Hoffech chi gyfrannu o’r cychwyn at rywbeth newydd a chyffrous? Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – Tywi Gateway Trust (bellach yn cael ei adnabod fel Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob) i gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei gyrru gan y gymuned, i ailddatblygu Parc yr Esgob, …

Prif Arddwr Newydd

Mae’n bleser mawr gan  Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gyhoeddi penodiad Piers Lunt yn Brif Arddwr. Bydd yn cychwyn ei swydd newydd ar Fedi’r 3ydd, 2018. Roedd Piers yn Arddwriaethydd Botanegol/ Tyfwr Coed yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC) a mae ganddo wybodaeth eang o, a brwdfrydedd dwfn am blanhigion a gerddi. Ei brif ddiddordeb yw cyfuno …